Mae Plaid Cymru wedi dewis y cynghorydd lleol adnabyddus Lindsay Whittle i sefyll yn is-etholiad Caerffili i'r Senedd ar 23 Hydref.
Cafodd Lindsay ei fagu yng Nghaerffili ac mae’n cynrychioli Penyrheol ar y cyngor. Daeth yn agos iawn i ennill yn erbyn Llafur yn Etholiad Cyffredinol y llynedd, ac mae’n awyddus i ennill cefnogaeth unwaith eto fel ymgeisydd Plaid Cymru.
“Mae amgylchiadau'r isetholiad hwn, a gododd yn sgil marwolaeth Hefin David, wrth gwrs yn drist iawn ac rwy’n parhau i feddwl yn fawr am deulu ac anwyliaid Hefin.”
“Mae pobl Caerffili yn haeddu cynrychiolydd lleol angerddol yn y Senedd. Rwy'n benderfynol o gynnig agenda gadarnhaol, i sicrhau fod yr ardal hon yn cael bargen deg.”
— Lindsay Whittle
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod Lindsay wedi bod yn sefyll dros ei gymuned ers blynyddoedd ac y byddai’n gynrychiolydd gwych.
“Mae gan Lindsay Whittle hanes hir o sefyll dros ei gymuned, a byddai'n ased go iawn yn y Senedd.
“Mae pobl yn lleol yn teimlo eu bod wedi cael eu cymryd yn ganiataol a’u siomi droeon gan y Llywodraeth Lafur. Mae amseroedd aros yn parhau yn uchel. Mae ysgolion yn cael eu tanariannu. Mae cynghorau yn ei chael hi’n anodd i ddelifro gwasanaethau rheng-flaen.
“Wedi 26 mlynedd o Lafur, mae pobl yn gynyddol anhapus gyda’r ffordd mae Cymru’n cael ei rhedeg ac mae nhw’n chwilio am newid.
“Mae etholwyr Caerffili yn gwybod y gallant ymddiried ym Mhlaid Cymru i sefyll dros fuddiannau Cymru – bob tro”
— Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru
Cymryd rhan – helpa i ennill Caerffili
Mae Lindsay Whittle yn barod i sefyll dros Gaerffili—ond mae angen dy gefnogaeth. Os wyt ti'n lleol neu’n cefnogi o bell, galli di wneud gwahaniaeth.
Dyma sut galli di helpu:
- ✅ Gwirfoddoli: Dosbarthu taflenni, curo drysau, neu arddangos poster neu arwydd gardd
- 💚 Rhoi: Mae pob ceiniog yn ein helpu i gyrraedd mwy o etholwyr
- 🗳️ Addo dy bleidlais: Dangos dy gefnogaeth a helpu i adeiladu momentwm