Lindsay Whittle

Mae Lindsay Whittle wedi sefyll dros Gaerffili a’i chymunedau ar hyd ei oes, gyda'i wreiddiau'n ddwfn yn etifeddiaeth dosbarth gweithiol y dref. Cafodd ei fagu ar stad gyngor Penyrheol, ac roedd ei deulu gofalgar ac egwyddorol wedi llunio’r gwerthoedd mae’n dal i'w dilyn heddiw.

Roedd ei rieni’n awyddus i roi bywyd gwell iddo ef a’i chwaer, gan feithrin ymdeimlad cryf o gyfiawnder cymdeithasol ac ysbryd cymunedol. Roedd eu straeon am rannu tŷ cyngor gyda theulu arall yn Nhrecenydd wedi gwneud argraff fawr ar Lindsay, gan danio’i ymrwymiad i degwch, urddas a chyfle i bawb.

Mae taith wleidyddol Lindsay wedi ei seilio ar ei gymuned. Mae wedi gwasanaethu Caerffili fel cynghorydd gyda balchder, bob amser yn credu y dylai gwleidyddiaeth weithio er budd pobl gyffredin ac adeiladu cymunedau cryf.

Mae ei gysylltiad â Chaerffili yn bersonol yn ogystal â gwleidyddol. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Cwm Ifor ac mae wedi parhau i gefnogi’r ysgol a’i disgyblion dros y blynyddoedd. Am dros 22 mlynedd, bu’n rhedeg y clwb ieuenctid lleol yn wirfoddol, gan helpu pobl ifanc i ddod o hyd i bwrpas a pherthyn.

Mae hanes ei deulu’n rhan o hanes diwydiannol y fro. Cafodd hen-daid Lindsay, Evan Hopcyn James, ei ladd yn Nhrychineb Glowyr Senghennydd yn 1913. Roedd Evan wedi bod ar y Pwyllgor Trychineb ar ôl ffrwydrad blaenorol yn 1900 – etifeddiaeth y mae Lindsay wedi parhau â hi drwy wasanaethu ar yr un pwyllgor i gefnogi myfyrwyr lleol gyda’u haddysg.

Mae Lindsay Whittle yn sefyll fel eiriolwr angerddol dros bobl Gaerffili, yn arbennig y cymunedau dosbarth gweithiol. Mae ganddo record o onestrwydd, gwasanaeth, a balchder yn ei dref enedigol. Fel aelod o’r Senedd, mae Lindsay yn addo bod yn llais i bobl gyffredin—gan gofio’i wreiddiau a bod yn barod bob amser i ymladd dros ddyfodol tecach i bob un.


Cymryd rhan – helpa i ennill Caerffili

Mae Lindsay Whittle yn barod i sefyll dros Gaerffili—ond mae angen dy gefnogaeth. Os wyt ti'n lleol neu’n cefnogi o bell, galli di wneud gwahaniaeth.

Dyma sut galli di helpu:

  •  Gwirfoddoli: Dosbarthu taflenni, curo drysau, neu arddangos poster neu arwydd gardd
  • 💚 Rhoi: Mae pob ceiniog yn ein helpu i gyrraedd mwy o etholwyr
  • 🗳️ Addo dy bleidlais: Dangos dy gefnogaeth a helpu i adeiladu momentwm