Lindsay Whittle: Pencampwr Lleol Caerffili

Lindsay Whittle: Pencampwr Lleol Caerffili

Is-etholiad Caerffili: 23 Hydref 2025

Mae Plaid Cymru wedi dewis pencampwr lleol—Lindsay Whittle—i sefyll yn is-etholiad y Senedd yng Nghaerffili ac i gynrychioli’r gymuned y mae wedi’i gwasanaethu’n falch ers degawdau.

Wedi ei eni a’i fagu yng Nghaerffili, mae Lindsay wedi treulio ei fywyd yn ymladd dros bobl leol ar y Cyngor ac yn y gymuned. Daeth yn ail agos yn etholiad San Steffan y llynedd, a gyda chefnogaeth gryf leol mae'n ffefryn gan lawer i ennill sedd Caerffili yn y Senedd.

“Mae gen i hanes balch o sefyll dros Gaerffili, a Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n sefyll dros Gymru go iawn.”
 Lindsay Whittle

Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn cefnogi Lindsay i fod yn llais grymus yn y Senedd—rhywun fydd wastad yn rhoi Caerffili yn gyntaf.


📣 Helpa’r ymgyrch heddiw


Pam Lindsay?

  • ✅ Gwreiddiau dwfn yng Nghaerffili
  • ✅ Record gref o gyflawni ar faterion lleol
  • ✅ Cefnogaeth y gymuned
  • ✅ Yn barod i herio Llafur a Reform

Mae Llafur wedi cymryd Caerffili yn ganiataol. O Starmer yn torri addewidionLafur Cymru yn gwneud llanast o’r NHS a thoriadau’r cyngor i lyfrgelloedd a gwasanaethau cyhoeddus, mae’n amser am newid.

Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd â’r dewrder a’r weledigaeth i herio Llafur a Reform—a Lindsay Whittle yw’r ymgeisydd i wneud hynny.


Cymryd rhan – helpa i ennill Caerffili

Mae Lindsay Whittle yn barod i sefyll dros Gaerffili—ond mae angen dy gefnogaeth. Os wyt ti'n lleol neu’n cefnogi o bell, galli di wneud gwahaniaeth.

Dyma sut galli di helpu:

  •  Gwirfoddoli: Dosbarthu taflenni, curo drysau, neu arddangos poster neu arwydd gardd
  • 💚 Rhoi: Mae pob ceiniog yn ein helpu i gyrraedd mwy o etholwyr
  • 🗳️ Addo dy bleidlais: Dangos dy gefnogaeth a helpu i adeiladu momentwm