Derbyniodd Cynghorydd Plaid Cymru, Steve Skivens (Penyrheol) wahoddiad yn ddiweddar i gyfarfod â dau hen filwr sy’n datblygu gardd gyfeillgarwch yn ardal Caerffili. Dyma adroddiad Steve.
Derbyniais wahoddiad yn ddiweddar i gwrdd ag ac i siarad â dau hen filwr sydd yn datblygu gardd gyfeillgarwch.
Mae’r ddau wedi defnyddio’u hadnoddau eu hunain i greu man cyfarfod ar gyfer ffrindiau a phobol a fu yn y gwasanaethau milwrol.
Treuliais rhai oriau yn trafod materion sy’n wynebu pobol yn gadael y lluoedd arfog a pheth o amgylchiadau hefyd gwasanaethau’r golau Glas.
Yn aml mae’r sawl sy’n dal i wasanaethu mewn rolau hanfodol yn aml yn gadael y gwasanaeth gyda therfyniad sydd yn rhy sydyn.
Ymhell oddi wrth gyfeillion, cydweithwyr, yn cario anafiadau corfforol a meddyliol i mewn i ddyfodol sy’n aml yn ansicr.
Wedi mynd mae cyfeillgarwch eu hamgylchedd cyfarwydd, pwrpas i’w rôl allweddol a chefnogaeth ag anghenion ymadael.
Yna mae rhai yn straffaglu â rheoliad ariannol cartrefi, cymdeithasu sefyllfaoedd newydd a pherthynas agos ag eraill.
Mae’r canlyniadau yn gallu cynnwys digartrefedd, gofidiau ariannol, dulliau anghyfarwydd o fyw ar ben yr anafiadau y maent yn eu cario ag ati.
Ac eto, mae’r ymrwymiad sy’n ffurfio timau cydlynol tynn y gorffennol yn barhaol. Mae cynnig llaw cyfeillgarwch â phobl sy’n deall yn gallu cau’r bylchau mawr ym mywydau hen filwyr.
Felly, roedd hi’n anrhydedd cael gwahoddiad ddydd Sadwrn i gyfarfod anffurfiol â’r grŵp garddio adfywiol gyda grŵp o hen filwyr â’u teuluoedd.
Tynnu coes, adrodd storïau a hiwmor yn ddigonol. Eto, roedd mwy o ymdopi ag anafiadau rhai pobol, cyfyngiadau personol a’u hanghenion yn amlwg. Beth bynnag y bu eu cefndir roedden nhw wedi bod yn uned unwaith eto. Yn cefnogi ei gilydd mewn modd cyfeillgar. Heb unrhyw swyddogaethau. dim byd ond llaw cyfeillgarwch.
Rydw i’n eu llongyfarch yn eu hymdrechion gan obeithio y byddan nhw’n gallu ymestyn allan i eraill gan greu’r ardd gyfeillgarwch ymhellach, a rhwydwaith cyn filwyr.
Byddaf yn edrych ymlaen at ddychwelyd atoch i weld sut mae eu hanes yn cynyddu.
Diolch Chris a John.