Datgelu Sgandal Tai Cyngor Gwag Ac Mae’n Wirioneddol Ysgytiol

Datgelu Sgandal Tai Cyngor Gwag Ac Mae’n Wirioneddol Ysgytiol

Mae Plaid Cymru wedi datgelu sgandal bod tai cyngor yn sir Caerffili yn gorwedd yn wag am wythnosau, misoedd a hyd yn oed blynyddoedd wedi i’r tenantiaid symud allan.

Datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth bod un tŷ yn y fwrdeistref wedi bod yn wag am bron i DAIR blynedd tro bod swyddogion a'r cyngor a redir gan Lafur yn penderfynu beth i’w wneud ag e.

Mae’r cyngor wedi dweud bod eiddo un ystafell wely yn wag ar gyfartaledd o 11.28 wythnos, dwy ystafell wely am 13.7 wythnos a thair ystafell wely m 18 wythnos.  Ond mae un cartref wedi bod yn wag ers Ebrill 2023.

Ar y 19eg o Ionawr 2026, roedd y nifer o dai cyngor gwag yn y fwrdeistref sirol yn 265.

Mae cyngor Caerffili hefyd wedi datgelu iddynt wario £12,277,940 yn adnewyddu cartrefi gwag yn 2024-25  a rhwng Ebrill 1af 2025 a 31ain o Ragfyr gwariwyd £9,739,008 pellach.

Ymddangosodd Lindsay Whittle, Aelod y Senedd dros Gaerffili mewn fideo o flaen eiddo caeedig ar First Avenue, Trecenydd yn ystod ymgyrch isetholiad y Senedd y llynedd. Dywedodd iddo gael ar ddeall bod £96,000 wedi’i wario ar adnewyddu’r tŷ lle mae rhywun nawr yn byw ynddo.

Ers ei ethol mae Lindsay Whittle wedi codi’r mater o dai cyngor gwag gyda Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd Lindsay Whittle, cyn rheolwr cartrefedd: “Mae sefyllfa tai gwag yn sgandal llwyr a dylai fod archwiliad gan Lywodraeth Cymru dros Gymru gyfan. Mae pobol yn talu am Wely a Brecwast a gwesteiau tra’n disgwyl i dai gael eu rhoi, ac mae costau hynny, yn ei hunan, yn sgandal.

“Mae’n rhaid bod ffordd o ddyrannu cartrefi i denantiaid arfaethedig yn gyflymach. Mewn gwirionedd, yn union y mae tenant yn symud allan, dylai tîm adeiladu’r cyngor fod yn symud i mewn i wneud y gwaith angenrheidiol.

“Os nad yw cynghorwyr Llafur a swyddogion yn gallu cymryd penderfyniadau, yna efallai y dylen nhw ystyried gadael eu swyddi. Dyw gadael cartref yn wag am dair blynedd yn ddim byd llai na sgandal. Petai’r cartref dienw yma yn Llundain bydd sgwatwyr wedi’i feddiannu!”

“Os oes yna faterion yn ymwneud â’r eiddo, fel y gallai fod wedi tair blynedd, yna mae ei werthu yn opsiwn. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi digwydd yn y gorffennol.  Rwy’n siŵr y byddai adeiladwr yn falch ohono er mwyn ei atgyweirio a’i werthu ymlaen i berson sy’n disgwyl am gartref,” ychwanegodd Lindsay Whittle, cyn arweinydd grŵp Plaid Cymru ar yr awdurdod.

Dywedodd Greg Ead, cynghorydd Penyrheol,  sydd wedi codi’r mater eisoes “Mae’r cyngor yn gwario dros £12m y flwyddyn ac yn cymryd cyfartaledd o 11 wythnos i adnewyddu’r tai i ryw  safonau Ansawdd Safonau Tai Cymreig damcaniaethol sy’n ymddangos fel petai nad oes iddyn nhw unrhyw berthynas â realiti.

Yn y cyfamser, mae cannoedd o bobol ddigartref yn y fwrdeistref sirol sy’n disgwyl am flynyddoedd am gartref iddyn nhw eu hunain. Mae’r sefyllfa yma yn hollol hurt ac yn sgandal a ddylai fod yn flaenoriaeth i fynd i’r afael ag ef i  Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth nesaf Cymru.”

Dywedodd Cyngor Caerffili y llynedd bod, dan Safon Ansawdd Llywodraeth Cymru'r nifer y rheolaethau sy’n berthnasol i ail-osod tai cyngor wedi cynyddu o 33 i 44 ac i hyn gael effaith pellach ar yr amser a gymerwyd i wella’r tai.