Ewch â Gwaith y Senedd i’r Bobol, mae Lindsay Whittle yn Annog

 Ewch â Gwaith y Senedd i’r Bobol, mae Lindsay Whittle yn Annog

Mae Aelod y Senedd, Lindsay Whittle yn credu y dylid gwneud mwy i gael pobol i ddeall yr hyn mae’r Senedd yn ei wneud a sut mae’n effeithio ar eu bywydau.

Gosododd Lindsay Whittle, sy’n cynrychioli Blaenau Gwent, Caerffili, Rhymni, gwestiwn ar y mater i Gomisiwn y Senedd.

Dywedodd: “Mae yna deimlad cryf ymhlith llawer o bobol o fewn ein cymunedau - o Frynmawr a Thredegar a thrwodd i Gaerffili a Rymni - bod y Senedd yn teimlo fel rhywbeth sydd ‘draw fan acw yng Nghaerdydd’ ac ymhell o’u bywydau beunyddiol.

“A wnaiff y Comisiwn ymroi i geisio cynyddu’r nifer o ymweliadau wyneb yn wyneb gan eu bod mor bwysig, gan geisio cynyddu'r prosiectau ymestyn allan yn yr ardaloedd lleol hyn - yn hytrach na dibynnu yn unig ar ddeunyddiau digidol - er mwyn sicrhau bod pobl leol ddim yn teimlo eu bod wedi cael eu hanghofio?”

Dywedodd Huw Irranca-Davies, Llwydd a Chadeirydd Comisiwn y Senedd, wrth ymateb bod y Senedd wedi derbyn tipyn o gydnabyddiaeth am y gwaith; yn ymestyn allan o fewn Blaenau Gwent, Caerffili, Rhymni.

 “Mae ein timau addysg ac ymrwymiad  ieuenctid wedi cyflwyno 29 sesiwn ymestyn allan mewn ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid yn yr ardal, gan weithio gyda mwy na 2,000 o bobol ifanc. Mae 11 sesiwn addysgol bellach wedi’u cynnal ym Mae Caerdydd, yn ymglymu 337 o bobol ifanc o’r ardal honno.

“Gallem bob amser wneud mwy, wrth gwrs, ac mae ein tîm yn awyddus i fynd allan a gwahodd Aelodau i ddod hefyd, gan ein bod yn meddwl bod Aelodau yn rhan bwysig o’r broses ymwneud hyn.