Mae bron i £1.5m o rent wedi’i golli mewn ond 10 mis tra bod cartrefi yn wag yn sir Caerffili yn cael eu paratoi ar gyfer tenantiaid newydd, datgelwyd.
Datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth ar ran Aelod y Senedd, Lindsay Whittle bod y golled drychinebus o incwm rent rhwng mis Ebrill 2025 a mis Chwefror 2026.
Dywedodd Lindsay Whittle, a arferai fod yn rheolwr tai: “Ces i fy syfrdanu pan ddarllenais i’r ffigyrau hyn a dydyn nhw ddim yn cynnwys y gost o ddarparu llety ar gyfer teuluoedd ac unigolion mewn gwestai a llety gwely a brecwast, neu'r gost o ffitio sgriniau diogelwch yn yr eiddo gwag. Arian cyhoeddus yn mynd yn wastraff yw hwn.
“Mae’n pwysleisio unwaith eto'r galw am lenwi eiddo gwag gan denantiaid newydd mor gyflym â phosib. Hoffwn i weld system lle mae gweithwyr yn symud i mewn y funud mae’r cyn denantiaid yn symud allan gan ddechrau ar y gwaith o ddod â’r llety i fyny i safon. Byddai hynny, os bosib, yn lleihau’n ddramatig y golled mewn incwm rhenti.
“Gellid gwario’r miliynau o bunnau a gollir, am fod eiddo’r cyngor yn wag am gyfnodau hir i adeiladau tai newydd ac i fynd i’r afael a’r galw anferthol sydd am lety.
Mae cyngor Caerffili wedi derbyn mwy na £20m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella tai cyngor yn 2024-25 a 2025-26.
Yn gynharach eleni datguddiodd Plaid Cymru sgandal tai cyngor yng Nghaerffili yn gorwedd yn wag am wythnosau, misoedd a hyd yn oed blynyddoedd wedi i denantiaid symud allan.
Datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth bod un tŷ yn y fwrdeistref wedi bod yn wag am bron i DAIR blynedd tra bod swyddogion y cyngor, a redir gan Lafur, yn penderfynu beth i’w wneud.
Dywedodd y cyngor bod eiddo un ystafell wely yn wag ar gyfartaledd o 11.28 wythnos, dwy ystafell wely am 13.7 wythnos a thair ystafell wely am 118 wythnos. Ond mae un cartref wedi bod yn wag ers Ebill 2023. Dywedodd Lindsay Whittle y gwariwyd £78,000 ar ailwampio un tŷ cyngor yn First Avenue, Trecenydd a fu’n wag am nifer o fisoedd.
Ar Ionawr 19, 2026 tua 265 o gartrefi cyngor oedd yn wag yn y fwrdeistref sirol.