Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, Lindsay Whittle, yn dweud bod mwy a mwy o rai sydd gyda GIG yn pryderu am eu deintyddion yn symud i ofalu am gleifion preifat yn unig.
Dywedodd Aelod y Senedd dros Gaerffili ei fod yn cael ei foddi gan geisiadau am gymorth gan etholwyr, er bod Lindsay Whittle yn cyfaddef mai ychydig bach y gellir ei wneud yn y tymor byr i ystwytho argyfwng deintyddol GIG.
Daeth hyn yn sgîl ymateb i Gais Rhyddid Gwybodaeth gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan y mis diwethaf a ddatgelodd bod mwy na 100 o bobol yn ardal Caerffili ar restr aros GIG am ddeintyddion. Bu’r person a fu’n disgwyl hirach wedi bod yn disgwyl ers mis Mai, 2025.
Dywedodd Lindsay Whittle: “Rydw i’n rhannu rhwystredigaeth pobol gyda deintyddion ar draws Caerffili yn gadael cleifion GIG cyson. Maent yn teimlo bod cytundeb deintyddol newydd GIG Cymru a’r ffordd y mae’n cael ei ariannu, yn eu rhwystro rhag gallu parhau i weld cleifion GIG tymor hir. Tebyg i’r sefyllfa yng Nghaerffili sydd ar draws Cymru ac rydw i’n teimlo consyrn dwfn oherwydd maint y broblem hon.
“Yn anffodus, dydw i ddim yn gallu cynnig ateb gallai newid na gwyrdroi’r sefyllfa yn fuan. Dydw i ddim yn gallu gwrthdroi unrhyw benderfyniad gan gwmni i newid tuag at fod yn breifat gan ddileu cleifion GIG. Yn wir, claf preifat ydw i bellach.
Bu problemau gyda darpariaeth a chynhwysedd GIG yn adeiladu’n uwch ers nifer o flynyddoedd. Mae adennill deintyddiaeth yn flaenoriaeth uchel i Blaid Cymru a byddaf i’n codi’r achosion gwirioneddol hyn.
· Hyfforddi Ein Hunain: Rydym wedi ymroi i greu dwy ysgol ddeintyddol newydd. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn hyfforddi staff yma yng Nghymru i aros a gweithio yng Nghymru.
· Adennill cynhwysedd: Drwy gynyddu'r nifer o ddeintyddion cymwys, gall leddfu’r pwysedd ar y cwmnïau cyfredol a dychwelyd i system o archwiliadau sy’n rhoi blaenoriaeth i iechyd geneuol.
· Ffocws GIG: Nod y Blaid yw sicrhau bod deintyddiaeth GIG yn parhau i fod yn ddichonadwy, bod yna opsiwn mynediad ar gyfer pawb o fewn ein cymunedau, nid yn unig i’r sawl sy’n gallu fforddio mynd yn breifat.
“Yn y cyfamser, rydw i’n annog pobol i gofrestri a mynnu mynediad i Borthol Deintyddol GIG Cymru i weld yn union lle’r ydych chi a lle yr ydych yn fwyaf tebygol o gael mynediad i wasanaethau GIG.”
Y fynedfa i’r porthol deintyddol yw <https://dhcw.nhs.wales/product-directory/our-digital-services/dental-access-portal/>