Mae Aelod Senedd Caerffili Lindsay Whittle heddi wedi galw ar i arweinydd y cyngor i alw am adolygiad munud olaf ar ei gynlluniau ar gyfer y ei fwriad dros bwll nofio newydd yn y dref.
Mae Lindsay Whittle wedi ysgrifennu at arweinydd newydd Llafur ar Gyngor Caerffili, Jamie Pritchard, yn gofyn am ail feddwl ar frys am y bwriad ar gyfer cynigion £38m Canolfan Hamdden a Both Llesiant yn dilyn sylwadau gan y gymuned nofio.
Dywedodd Lindsay Whittle: “Mae cyngor Caerffili mewn perygl o ddarparu cyfleusterau nad ydynt i fyny i safon. Bydd pwll dwf 1.1 metr DDIM yn bodloni anghenion miloedd o drigolion sydd yn dibynnu ar gyfleusterau dŵr priodol.
“Dywedwyd wrthyf gallai darparu pwll nad yw’n addas i’r pwrpas gostio tua £250,000 i’r cyngor pob blwyddyn oherwydd y rhaglen Dysgu Nofio 2 sydd wedi’i leihau. Bydd hyn yn arwain at ail leoli gan glybiau a lleihad yn y defnydd gan aelodau’r cyhoedd. Os yw £38m i’w wario, mae galw ar i’r cyngor sicrhau bod e’n gywir.
“Rydw i wedi codi’n gonsyrn cyn hyn gyda chyn arweinydd y cyngor am y cyfleuster sydd i’w ddarparu a’r cyfle, er engrafiff i ddod o hyd i'r Tom Daley newydd yma yng Nghaerffili a gollir os na newidir y cynlluniau.”
Dywedodd Lindsay Whittle ei fod wedi cael gwybod y byddai’r pwll bas o’r math a fwriedir yn anaddas ar gyfer hyfforddiant nofio cystadleuol, plymio, polo dŵr, nofio artistig a hyd yn oed llawer o arferion addysgu safonol. “Bydd plant yn methu cwblhau dyfarniadau a bathodynnau nofio allweddol oherwydd dyfnder annigonol ar gyfer cynnydd diogel ac effeithiol.”
Mewn e-bost i Jamie Pritchard, dywed Lindsay Whittle: “Bydden i o ddifrif yn gofyn eich bod fel arweinydd yn edrych i mewn i’r mater o ddyfnder y pwll nofio newydd yn both newydd.
“Hwn yw’r cyfle olaf i gael hwn yn gywir. Rydw i’n sylwi bod amlinelliad o brif ffurf y strwythur yn ei le. Os yw’r pwll yma i barhau i’r dyfnder presennol, yna mae’n glir y bydd y cyngor mewn gwirionedd yn colli arian. Ni ellir byth adennill y golled sy’n dod o incwm y clybiau.
“Mae hyn os bosib yn difetha pwrpas y both newydd. Mae galw arnom i annog mwy o bobol i ddod yn holliach ac yn sicr cael mwy o blant i ddysgu nofio.
“Os methwch chi’r cyfle hwn bydd y cyfle yn diflannu am o leiaf 50 blynedd. Nid hon yw’r etifeddiaeth ni am adael ar ein holau i genedlaethau’r dyfodol.” Ychwanegodd Lindsay Whittle.