Ail Ystyriwch Gynlluniau Fflatiau, yw Anogaeth Aelod y Senedd

Ail Ystyriwch Gynlluniau Fflatiau, yw Anogaeth Aelod y Senedd

Mae Aelod y Senedd, Caerffili, Lindsay Whittle, wedi galw am ail feddwl y cynllun i godi fflatiau ganol Ystrad Mynach heb unrhyw fan parcio.

Mae Lindsay Whittle wedi annog preswylwyr sy’n bryderus am y cynlluniau i ysgrifennu’n uniongyrchol i ymgynghorwyr cynllunio LRM Planning yn 22 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ.

Dechreuwyd proses cyn-gynllunio ar gyfer y cynllun cyn i’r cais cynllunio gael ei gyflwyn;o  a disgwylir hynny yn y flwyddyn newydd.

Mae’r cynllun yn golygu dymchwel adeiladau ar Heol Bedlwyn i adeiladau 24 o fflatiau.

Dywedodd Lindsay Whittle: “Mae galw am y fflatiau hyn ar gyfer pobol ifanc ganol y dref ond y nam ar y cynllun yw nad oes yna unrhyw ddarpariaeth ar gyfer parcio ceir yno.  Mae’n anorfod, os ydych yn darparu mannau parcio neu beidio, bydd gan bobol geir.  Felly, os nad oes unrhyw ddarpariaeth iddynt ar y safle, bydd hyn yn arwain at broblemau parcio mewn mannau eraill yn Ystrad Mynach.

“Rydw i’n ymwybodol bod yna ganllawiau gan Lywodraeth Cymru sy’n datgan, oherwydd bod y cynllun yng nghanol tref does dim galw am ddarpariaeth barcio. Ond nid canol dinas Caerdydd yw hyn lle gall pobol gerdded yn rhwydd i’w swyddi a’r ;holl gyfleusterau.

“Mae angen parcio ar drigolion Ystrad Mynach sy’n byw gerllaw.  Fy marn i yw y dylai’r cynllunwyr fynd yn ôl i’w gweill gan adolygu’r cynllun a’i wneud yn fwy derbyniol,” ychwanegodd Lindsay Whittle.