Mae swyddfa bost amgen ganol Caerffili yn dod yn agosach fyth, dywedwyd wrth Aelod y Senedd Plaid Cymru, Lindsay Whittle.
Dywedodd Swyddfa’r Post wrth A.S. Blaenau Gwent, Caerffili, Rhymni bod y mater yn cael ei drafod gydag un ymgeisydd a bod y broses yn agosáu at ei gyfnod terfynol.
Pan lofnodir cytundeb yna bydd y gwaith addasu ac agor y gangen yn symud yn ei flaen. Mae’r dyddiad agor eto i’w benderfynu, dywedwyd wrth Lindsay Whittle.
Dywedodd Lindsay Whittle: “Rydw i wedi ‘mhlesio bod trefniadau amgen ar gyfer y swyddfa bost yn TJJones yn mynd yn ei flaen, ac yn agosáu at yr hyn sy’n ymddangos bod y camau terfynol o ddod o hyd i fan amgen yn digwydd.”
ododd Lindsay y mater y mis hwn (Gorffennaf) pan gynhaliodd Swyddfa’r Post arddangosfa yn y Senedd.
“Gyda chau’r swyddfa bost bu’n rhaid i nifer o bobol sy’n byw yn agos i ganol y dref wneud y daith i Castle View neu Benyrheol, sydd yn dipyn o daith sy’n cymryd amser. Mae arnom angen swyddfa bost ganol y dref ar frys,” ychwanegodd Lindsay Whittle.