Yn ddiweddar mae cynghorydd Penyrheol, Steve Skivens, wedi amlygu'r argyfwng y mae ceudyllau yn creu ar draws Sir Caerffili.
Yn yr erthygl yma, mae Steve yn edrych ar yr hyn ddylai ddigwydd yn y dyfodol.
Yn ddiweddar amlygais y dirywiad yng nghyflwr yr heolydd yn fy ward a achosir gan geudyllau. Gydag astudiaeth achos ar yr heol fer i bentref y Groes-wen lle mae dros 50 o geudyllau o fewn milltir, ac atgyweiriadau yn dod yn aneffeithiol. Yn ychwanegol, mewn sawl ardal mae atgyweiriadau yn aml yn anfoddhaol o ran dull ac mae galw am atgyweiriadau pellach gan yr awdurdodau.
Mae’r stori yn bwrw ymlaen mewn rhannau eraill o Gymru lle adroddir am gyflwr hyd yn oed ar draffyrdd a heolydd A rhydweliol lle mae yma ddifrod sy wedi creu damweiniau.
Ond lle yr ydym yn methu yw holl bwynt y ddadl hon sef yr achos a’r ateb os wnawn ni gymryd cam yn ôl o’r cylchedd atgyweirio barhaol. Hyn yn costio miliynau yn fy ardal i a miliynau lawer ar draws Cymru.
o Ai’r achos yw’r newid yn ein hinsawdd gyda stormydd llawer mwy aml?
o Ai maint y drafnidiaeth a’r teithiau cynyddol mewn cerbydau preifat oherwydd bod ein hopsiynau trafnidiaeth gyhoeddus mor gyfyng.
o Ai’r toriadau sy’n amlwg mewn ail wynebu heolydd a rhaglenni cynnal a chadw awdurdodau lleol?
o Ai safon yr atgyweiriadau a’r dulliau a ddefnyddir?
o Ydy’r cynnydd mewn adeiladu a datblygu yn caledi arwynebedd y ddaear yn arbennig mewn safleoedd tiroedd gwyrdd; nid yn unig yn cynyddu trafnidiaeth ar yr heolydd ond hefyd yn symud dŵr stormydd yn gyflymach i mewn i’r man y cant eu derbyn, gan dorri i fyny heolydd a phalmantau?
o Allwn ni ddim fforddio cynnal y status quo gyda llawer o filiynau yn cael eu gwario ar atgyweiriadau brys, ymgymerwyr allanol, atgyweirio’r atgyweiriadau a hawliadau oherwydd anafiadau i gerbydau a phobol, neu ddifrod fel canlyniad i gyflwr gwael ein heolydd. Mae’n ymddangos bod yr holl sefyllfa yn tindroi i lawr i sefyllfa lle bydd rhai heolydd yn cael eu gadael yn gyfan gwbl am na ellir teithio arnynt.
Mae’n rhaid i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru gymryd cam yn ôl o’r gylched hon gan edrych eto. Edrych ar eu Cynlluniau Datblygu Lleol, datblygiadau isadeiledd, rhaglenni cynnal a chadw ac ail-wynebu sydd eu hangen yn hytrach nag atgyweiriadau parhaol, edrych ar beiriannau ar gyfer atgyweiriadau effeithiol pan fo’r galw, rhannu offer a gwybodaeth ar draws ardaloedd, gwirio safonau a dulliau o atgyweirio gan ymgymerwyr allanol a charfan llafur uniongyrchol eu hunain.
Cynyddu’r rheolaeth ar newid hinsawdd, rheoli mesurau a mynediad i opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus. Er enghraifft, penderfyniadau syml ar leihau cefnogaeth i drafnidiaeth ysgolion sy’n achosi 100,000 ychwanegol o deithiau ar heolydd ar draws Cymru pob dydd sy’n achosi canlyniadau annisgwyl ymhellach i lawr yr heol.
Gallwn osod rocedi hyd at ymyl ein galaeth a glanio ar nifer o blanedau, sydd yn aml yn cynnwys technoleg Gymreig, ond a allwn ni ddatrys ein ceudyllau!
Rydw i’n sicr y gallwn ni lenwi’r tyllau yma!