Arolwg: Plaid Cymru yn ffefrynnau yn is-etholiad Caerffili

Arolwg: Plaid Cymru yn ffefrynnau yn is-etholiad Caerffili

Mae’r arolygon barn annibynnol diweddaraf yn awgrymu fod Plaid Cymru ar y blaen yn is-etholiad Senedd Cymru yn etholaeth Caerffili.

Dangosodd arolwg mawr a gynhaliwyd dros yr haf gan gwmni Find Out Now fod cefnogaeth i Lafur a’r Ceidwadwyr wedi disgyn, gyda phobl yn troi at Blaid Cymru a Reform.

Gan ddefnyddio’r techneg safonol Swing Cenedlaethol Unffurf (UNS), mae’r arolwg yn awgrymu y gallai’r canlyniad yng Nghaerffili weld Plaid Cymru ar y brig gyda 35%, o flaen Reform ar 29% a Llafur yn drydydd ar 24%.

Mae tri cwmni – oll yn aelodau o’r British Polling Council – wedi cynnal arolygon barn ar gyfer Senedd Cymru dros yr haf. Mae’r holl bolau, gan YouGov i ITV, More in Common i Sky News, yn ogystal a Find Out Now, yn dangos Plaid Cymru ar y blaen yng Nghaerffili yn ôl UNS.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, bod y canlyniadau'n adlewyrchu'r hyn mae ymgyrchwyr yn ei glywed ar lawr gwlad:

“Mae’r arolygon yma’n adleisio’r hyn rydyn ni’n ei glywed o Gaerffili. Mae pobl wedi cael digon ar gael eu siomi gan Lafur a’r Torïaid.

“Maen nhw’n cofio fod Lindsay Whittle yn ail cryf yn yr Etholiad Cyffredinol fis Gorffennaf diwethaf, ac yn fodlon newid eu pleidlais i Blaid Cymru yn yr is-etholiad.

“Dydy mwyafrif llethol pobl Caerffili ddim eisiau Reform a’u gwleidyddiaeth negyddol Trumpaidd. Mae Llafur yn amlwg ar ei hol hi, felly mae pobl yn troi at Blaid Cymru er mwyn danfon neges na ddylid cymryd Caerffili a Chymru yn ganiataol.”
—Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru