Plaid i Annog Gweithredu i Dorri Arhosiad Saith Mis am Addasiadau i Dai

Plaid i Annog Gweithredu i Dorri Arhosiad Saith Mis am Addasiadau i Dai

Mae trigolion bregus yn Sir Caerffili yn disgwyl am fwy na saith mis a hanner am addasiadau hanfodol i’w cartrefi ac mae’n rhaid lleihau hynny, dywed cynghorwyr Plaid Cymru.

Mewn adroddiad i gyngor Caerffili, mae Awdit Cymru yn rhybuddio bod gorfod aros am amser hir am addasiad i gartref yn gallu golygu pobl yn analluog i gyflawni tasgau beunyddiol. Gallai oedi gynyddu’r risg o gwympiadau, yn arwain at yr angen i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus eraill, mae’r  archwilwyr yn rhybuddio.

Mae cynghorydd newydd Hengoed, Anthony Cook, sy’n aelod o bwyllgor craffu tai a’r amgylchedd yr awdurdod, a dderbyniodd yr adroddiad: “Fel cymdeithas dosturiol a gofal, mae gennym ddyletswydd sylfaenol i ofalu am ein trigolion oedrannus a’r sawl sydd â gofidiau symudedd.

“Rydw i wedi gweld fy hunan cymaint o bobl sy’n straffaglu â symudedd sy’n cael eu gadael yn disgwyl lawer yn rhy hir am addasiadau angenrheidiol i’w cartrefi, a hynny yn effeithio yn negyddol ar eu hannibyniaeth, urddas a’u bywydau beunyddiol.

“Mae  croeso i’r  gwelliant o ran amserau disgwyl. Fodd bynnag, mae disgwyliad o dros saith mis yn dal i fod llawer yn rhy faith. Mae disgwyl am gymaint â hyn o amser o bosib yn gallu teimlo fel tragwyddoldeb i rywun sy’n straffaglu i fyw yn annibynnol yn ei gartref ei hunan. Rhaid gwneud mwy i leihau’r amserau aros hyn.”

Dywedodd Charlotte Bishop, arweinydd grŵp Plaid Cymru: “Rydym yn cydnabod bod gwelliannau wedi’u gwneud i amserau aros o gyfartaledd o 473 diwrnod i 229 diwrnod yn 2025-26 ond mae hyn yn dal i fod llawer yn rhy hir.

“Rydym yn siarad am urddas, annibyniaeth a lles pobl. Mae’r oedi hyn yn gallu gadael pobol yn straffaglu gyda thasgau beunyddiol gan gynyddu’r perygl o syrthio, sydd yn y pen draw yn gosod mwy o bwysedd ar ein GIG a’r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

“Mae’n rhaid i’r cyngor osod ei ffocws yn llawn ar leihau ymhellach yr amser aros hwn a fydd yn gwella ansawdd bywydau llawer o bobol.”