Mae Plaid Cymru wedi galw cynlluniau gan Gyngor Caerffili, a redir gan Lafur, i godi treth y cyngor o 6.25% yn ystod yr argyfwng costau byw yn “wirioneddol annheg”.
Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop, arweinydd grŵp Plaid Cymru: “Deallaf beth yw’r pwysedd ariannol mae’r cyngor yn ei wynebu - ond dydyn nhw’n ddim o gymharu â’r pwysedd y mae teuluoedd a phensiynwyr yn ei wynebu’n ddyddiol.
“Mae’r cynnig o 6.25% yn nheth y cyngor yn ystod yr argyfwng costau byw yn teimlo’n wirioneddol annheg yn arbennig gan na fydd trigolion yn gweld unrhyw fudd yn dod ohono.”
Wrth gynnig ei sylwadau ar gynigion y gyllideb, dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop: “ Mae Llafur yn dweud y bydd galw cynyddol am lety dros dro yn galw am £841,000 ychwanegol am ei fod yn lleihau dibyniaeth ar Wely a Brecwast drud a gosod pobol mewn gwestai. Eto, ar draws y sir, mae eiddo gwag yn dal i fod heb eu defnyddio. Heb raglen o welliannau sylweddol yn ei le i ddod â’r rhain yn ôl i gael eu defnyddio.”
“Ar yr un pryd mae’r cyngor wedi penderfynu sefydlu sylfeini adnoddau arbenigol yn rhai o ysgolion y fwrdeistref ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu ac yn ddatblygiad angenrheidiol, ond daw â chanlyniadau y gellir eu rhagweld. Fel canlyniad uniongyrchol, disgwylir y bydd costau trafnidiaeth ysgolion £945,000 yn fwy ac yn angenrheidiol o fis Ebrill.
“Dwy ddim yn erbyn gwella darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN), a dydw i ddim yn amcangyfrif yn rhy isel y pwysedd ynglŷn â llety dros dro. Beth bynnag, mae’n anodd deall sut y gellir torri cyllideb ysgolion tra bod y costau ychwanegol sylweddol hyn yn cael eu derbyn mewn man arall - yn enwedig pan na eir i’r afael ag atebion ar gyfer arbed costau hir dymor yn cael eu gweithredu.
“Byddai adnewyddu eiddo gwag ar raddfa ddigonol yn fuddsoddiad gyllidol gydag elw parhaol wrth leihau dibyniaeth ar lety drud blwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn lle hyn mae’r cyngor yn ymddangos eu bod yn rheoli pwysedd tymor byr drwy lyncu costau trafnidiaeth cynyddol a hynny gan wthio’r straen ariannol i’r ysgolion sydd eisoes wedi’u hymestyn.
“Dyw hyn ddim yn ymwneud â dewis rhwng teuluoedd bregus ac addysg. Mae hyn ynglŷn ag ydy penderfyniadau yn cael eu gwneud wrth ystyried gwerth hir dymor, tegwch a lles plant yn wraidd iddynt.”
Ychwanegodd y Cyd-Ddirprwy Arweinydd y Cynghorydd Colin Mann: “Mae’r cynnydd o 6.25% ymhell yn uwch na chwyddiant. Mae mwy na dwywaith yn fwy nag unrhyw gynnydd mewn pensiynau neu fudd-daliadau a dwy ddim wedi clywed am neb yn derbyn codiad cyflog cymaint â 6.25%. Mae treth y cyngor yn dal i fod yn un o’r eitemau mwyaf, os nad y mwyaf sy’n wynebu cartrefi pob mis ac mae nifer sylweddol o bobol yn straffaglu.
“Mae tynnu nôl y toriadau ar gyfer trafnidiaeth ysgolion i’w groesawu. Mae unrhyw un sy’n ymweld ag ysgol ar ddechrau neu ddiwedd dydd yn gwybod am yr anhrefn a’r tagfeydd sydd mewn cymaint o’n hysgolion. Byddai tynnu mwy o blant oddi ar gludiant rhad wedi golygu mwy eto o deithiau mewn ceir preifat a hyd yn oed mwy o sefyllfaoedd anodd os nad rhai peryglus.
Mae’r cynnig i dorri arian ysgolion o 1% yn achosi gofid. Mae’r rhan fwyaf o gyllidebau ysgolion eisoes naill ai yn y coch neu yn mynd y ffordd hynny ac mae staffio eisoes yn cael ei leihau mewn rhai ysgolion. Maent eisoes yn wynebu colled o dros £11m erbyn 2027-28. Dydy hyn ddim yn gynaliadwy.”
Ychwanegodd ei gyd Ddirprwy Arweinydd Gary Enright: “ Mae cynyddu treth y cyngor am gymaint â hyn, pan bod yna arian sylweddol wrth gefn i leihau’r effaith, hyd yn oed am ond unwaith yn warthus. Unwaith eto mae trigolion y fwrdeistref hon, y mae’r weinyddiaeth hon wedi’i hethol i’w gwasanaethu, yn dioddef yn ariannol.
“Credaf ein bod wedi cyrraedd y trothwy lle mae treth y cyngor ddim yn gynaliadwy ac yn godiad arwyddocaol i gyllidebau teuluol,. Er enghraifft, mae’n golygu i fi yn bersonol gynnydd misol o dros £210, cyfanswm blynyddol o dros £2,000!
Dywedodd Aelod Senedd dros Gaerffili, Lindsay Whittle: “Byddai’r cyngor yn ddoeth i anwybyddu prosiectau mawr ffansi. Maent wedi profi gyda chanolfan hamdden newydd Caerffili, y fferm solar a Ffos Caerffili nad ydyn nhw’n gallu delio â chynlluniau mawr yn llwyddiannus. Mae Ffos Caerffili yn drychineb, mae’r fferm solar ar werth a dyw’r pwll newydd ddim yn addas ar gyfer nofwyr profiadol.
“Mae gwasanaethu sylfaenol yn cael eu hesgusodi. Llynedd gwnaethon nhw addo y byddai’r fwrdeistref yn cael eu glanhau gan fynd i’r afael â chwyn. Mae biniau sbwriel a biniau baw cwn yn llythrennol yn gorlifo. Mae’r fwrdeistref yn llythrennol wedi cyrraedd ei man isaf.
“Eto, mae Llafur am fwy o arian gan y trethdalwyr. Mae’r un trethdalwyr yn mynd heibio swyddfeydd gwag y cyngor pob dydd tra bod cartrefi cyngor yn gorwedd yn wag am hyd at naw mis ar gyfartaledd. Mae pobol wedi hen flino ar esgusodion.”