Mae Plaid Cymru wedi dewis ymgyrchydd lleol, Jeff Grenfell, ar gyfer yr isetholiad sydd ar ddigwydd yn ward y Fan i lenwi man gwag ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Tyfodd Jeff a dyfodd lan ym Mharc Lansbury yn enedigol o Gaerffili ac a hyfforddwyd yn beirnianydd mecanyddol sydd yn gweithio i gwmnïau yn cynnwys JCB ac Aston Martin, a chyflogir ef ar hyn o bryd yn awyrofod yng Nghwmbrân.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf dywedodd Jeff, sydd wedi gwasanaethu yn gynghorydd y dref ar gyfer Ward y Twyn ac yn gynghorydd cymunedol dros Barc Lansbury, bod ei flaenoriaethau allweddol yn cynnwys:
· Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys beiciau oddi ar y ffordd.
· Lleihau oedi a dod â thai cymdeithasol gwag yn ôl i’w defnyddio yn fwy buan.
· Cyflwr gwael ar heolydd, yn enwedig o gwmpas Heol Brynau
· Sicrhau ein bod yn gofalu am fannau gwyrdd a bod pawb yn cael eu mwynhau.
Yn ystod ei yrfa mae Jeff wedi byw a gweithio yn yr Almaen “ond bu fy nghalon pob amser yma yng Nghaerffili”.
Mae Plaid Cymru hefyd wedi dewis Alison Vyas yn ymgeisydd ar gyfer y man gwag ar Gyngor Cymunedol y Fan.
Dywedodd Alison: “Tyfais i fyny ar Barc Lansbury, wedi ein hamgylchu â menywod cryf a chymuned oedd pob amser yn gofalu am ei gilydd. Y gwerthoedd hynny a’m lluniodd i ac a ysbrydolodd fy mhenderfyniad i sefyll dros ward y Fan.
“Yn y ward, dyfon ni ddim lan fel cymdogion - fe dyfon ni lan fel teulu. Roedd gan bob stryd fodryb a fydden ein cynnwys. Roedd pob cymydog yn ewythr a oedd yn sicrhau ein bod yn ddiogel. Roedd pob stepen drws yn rhan o rwydwaith gefnogol a adwodd ein cymuned yn gryf.”
Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili; “Gyda thristwch gwirioneddol y cynhelir yr is-etholiad yma yn dilyn colled drist Christine Forehead.”
Ychwanegodd: “Mae Jeff ac Alison wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn eu cymunedau ac yn deall yr heriau sy’n wynebu ward y Fan - o ymddygiad gwrthgymdeithasol i effeithiau caledi. Maen nhw’n dod ag ymroddiad, tosturi a gonestrwydd a byddan nhw pob amser yn rhoi eu cymunedau yn gyntaf.”
Digwydd yr is-etholiad yn dilyn marwolaeth cynghorydd Llafur Christine Forehead ;y llynedd. Mae dyddiad yr etholiad eto i’w gyhoeddi.