Mae Plaid Cymru wedi dewis ymgyrchydd lleol Aneurin Minton o Benyrheol ar gyfer is-etholiad Cyngor Penyrheol wedi i Lindsay Whittle gael ei ethol yn Aelod Senedd dros Gaerffili'r mis diwethaf.
Cafodd Aneurin, sy’n rhedeg busnes prenwr, ei addysg yn Ysgol Gynradd Parc Hendredenni ac Ysgol Gyfun Sant Cenydd lle cwblhaodd ei lefel A. Bu’n gweithio cyn hyn fel coedwigwr cefn gwlad.
Bu Aneurin Minton, a dyfodd i fyny yn nhŷ Isaf ar ymyl Penyrheol, yn aelod o Gyngor Cymunedol Penyrheol, Trecenydd ac Ene’r glyn ers 2022.
Dywedodd: “Rydw i’n barod nawr i gymryd y cam nesaf yn gynghorydd sirol i chi er mwyn codi llais Penyrheol gan sicrhau ein bod yn cwrdd â’ch anghenion lleol gydag ymrwymiad a gweithredu ymarferol. Gofynnaf i bleidleiswyr am eu cefnogaeth i ni gael gwneud gwahaniaeth gyda’n gilydd.
“Rydw i’n gwybod y bydd hi’n anodd iawn dilyn ôl troed Lindsay Whittle a’i waith am dros bron i 50 mlynedd heb ei ail. ond rydw i’n benderfynol o weithio’n galed dros y gymuned os caf fy ethol.”
Dywedodd Lindsay Whittle: “Rydw i wrth fy modd yn cadarnhau Aneurin Minton yn ymgeisydd y Blaid yr is-etholiad i ddod yn fy lle i yn gynghorydd sirol ar GBS Caerffili.
“Mae Aneurin yn chwa o awyr iach i wleidyddiaeth leol, yn frwd, brwdfrydig, egnïol ac yn syml yn awyddus i fwrw ati.
“Mae eisoes wedi dechrau gwneud ei farc yn y cyngor cymunedol lleol a nawr yn barod i fynd â hyn ymlaen i lefel sirol. Yn naturiol, roeddwn i’n drist i adael Cyngor Caerffili ond rwy’n gwybod y bydd Penyrheol mewn dwylo da os caiff Aneurin ei ethol y mis nesaf.”
Cynhelir yr isetholiad ddydd Iau, Rhagfyr yr 11eg
Mae Plaid Cymru yn dal y tair sedd arall yn y ward gyda’r Cynghorwyr Creg Ead, Jon Scriven a Steve Skivens.