Mae arweinydd grŵp Plaid Cymru Caerffili Charlotte Bishop wedi gosod cynnig gerbron yn galw ar i reolwyr cronfa bensiynau i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi yn foesegol yn sgil y gwrthdaro rhwng Israel a Gaza.
Dywedodd cynghorydd Cwm yr Aber bod gan y cyngor ddyletswydd i sicrhau nad yw cyllid cyhoeddus yn cael ei defnyddio i “amlygu troseddau rhyfel neu ddioddefaint pobol.”
Mae’r cynnig gerbron, a fydd yn cael ei drafod yn ystod cyfarfod llawn Cyngor Caerffili ddydd Mawrth nesaf (Tachwedd 13eg) i’w gefnogi gan Blaid Cymru, Llafur a chynghorwyr annibynnol.
Dywed bod gan Gronfa Bensiynau Gwent (Torfaen) - y mae Caerffili yn aelod ohono - “ddyletswydd a chyfrifoldeb i ddefnyddio meini prawf buddsoddi moesegol i sicrhau nad yw cyfraniadau pensiwn yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â cham-drin hawliau dynol neu droseddau yn erbyn cyfreithiau rhyngwladol.”
Os bydd y cynnig llwyddiannus bydd y cyngor yn gofyn i’r gronfa bensiynau i adolygu eu portffolio buddsoddiadau gan ystyried a ddylid symud rhai cyfranddaliadau oddi wrth gwmnïau sy’n elwa o’r gwrthdaro rhwng Israel - Gaza.
Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop, sydd â phedwar o blant: “Pan rydych yn fam daw gwleidyddiaeth yn bersonol. Dechreuwch weld pob gwrthdaro drwy lygaid rhiant - nid gwleidydd.
“Mae bom a ollyngir ar Gaza yn difetha bywyd plentyn. Fedra i ddim gwahanu ’ngwaith gwleidyddol o ’nghyfrifoldeb fel rhiant. Mae gennym orfodaeth ddyngarol i sicrhau bod ein cyllideb gyhoeddus ddim yn cael eu defnyddio i amlygu troseddau rhyfel neu ddioddefaint dynol.
“Mae arnom ddyletswydd i sicrhau nad yw ein cronfeydd cyhoeddus yn cael eu defnyddio i gynnal troseddau rhyfel neu ddioddefaint dynol. Ni ddylai arian cyhoeddus na phensiynau gael eu defnyddio ar gyfer bomio dinasyddion. Dylid eu defnyddio i ariannu heddwch, ail adeiladu a chyfiawnder. Yn bersonol credaf os ydym yn dweud ein bod yn sefyll dros heddwch a hawliau dynol, rhaid i ni weithredu felly.”