Derbyniwyd cynnig am droseddau â chyllyll a’i ganlyniadau erchyll gan arweinydd grŵp Plaid Cymru Charlotte Bishop gan gynghorwyr Caerffili yn unfrydol.
Y Cynghorydd Charlotte Bishop gyflwynodd y cynnig yng nghyfarfod y cyngor a hynny yn sgil marwolaeth bachgen yn ei arddegau yn Abertridwr – y mae hi’n cynrychioli – yn gynharach eleni.
Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop wrth y cyngor: “Rydw i’n dwyn y cynnig hwn yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau â Chyllyll, yn dilyn colled drasig person ifanc 17 mlwydd oed a drywanwyd, digwyddiad a siglodd ein cymuned i’r carn gan ddifetha bywydau dirifedi am byth.
“Mae i gyllyll ganlyniadau difrifol, nid yn unig i’r dioddefwr, ond i’w deulu, cyfeillion, ysgolion mannau gwaith, y gwasanaethau galwadau brys, a chymuned gyfan yn gorfod delio â’r trawma a’r torri calonnau sy’n dilyn.
“Mae’r cynnig yma yn cydnabod sut y gall iechyd meddwl gwael a thrawma heb ei ddatrys sy’n effeithio pobol o bob oed, yn aml drwy gyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio sylweddau, trais difrod cymdeithasol lletach os na ddaw ymyrraeth yn ddigon buan. Tra bod yn rhaid i ni barhau i gefnogi oedolion sy’n cael eu heffeithio gan y materion hyn, hefyd mae gennym gyfrifoldebau i ymyrryd yn gynt lle mae’n bosib gwneud hynny i atal trasiedi eraill.
“Drwy gryfhau ymwybyddiaeth, partneriaeth, gweithio, addysg, ymrwymo cymunedol a mesurau ymarferol fel amnest cyllyll, gallwn weithio gyda’n gilydd i leihau’r drwg, gwarchod bywydau ac osgoi teuluoedd a chymunedau pellach rhag profi’r un golled ddinistriol."