Arweinydd y Blaid yn Condemnio’r Pla Tipio Anghyfreithlon Sy’n Bwrw Sir Caerffili

Arweinydd y Blaid yn Condemnio’r Pla Tipio Anghyfreithlon Sy’n Bwrw Sir Caerffili

Mae mwy na £1.4m wedi’i wario gan Gyngor Caerffili i waredu tipio anghyfreithlon ers mis Ebrill 2015 ac mae Plaid Cymru yn credu bod newidiadau i gasgliadau ailgylchu gwastraff a mynediad i’r tipiau wedi gwaethygu’r sefyllfa.

Datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru hefyd  bod 23,194 achos syfrdanol o dipio anghyfreithiol wedi digwydd yn ystod yr un cyfnod.

Dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru Caerffili: “Dywedon ni'r adeg a wnaed y newidiadau y byddai newidiadau i’r casgliadau, rheolau ailgylchu a mynediad i dipiau of fis Chwefror 2024 yn creu risg o greu canlyniadau anfwriadol.

“Pan ddaw hi’n fwy anodd, mwy dryslyd neu fwy cyfyng i bobol gael gwared ar ei gwastraff yn gyfreithiol, dyw’r effaith ddim yn diflannu - mae e’n cyrraeddi  mewn i  lonydd, coedir, banciau afonydd ac mewn cymunedau ar draws y fwrdeistref sirol.

“Mae’r difrod amgylcheddol a achosir gan dipio anghyfreithlon yn ddifrifol.  Mae sbwriel a deflir i ffwrdd yn llygru pridd a dyfroedd, yn anafu bywyd gwyllt, yn denu llygod mawr a fermin, yn cynyddu’r perygl o ddeunyddiau tocsig yn llifo i mewn i’r amgylchedd ac yn difetha prydferthwch naturiol ein cymoedd a’n mannau gwyrdd. “

Mae hi’n amlygu’r ffaith y gallai gwastraff plastig a sbwriel o gartrefi barhau yn yr amgylchedd am flynyddoedd gan achosi llygredd i nentydd a thir.  Gall deunyddiau peryglus wedi’u gollwng yn anghyfreithiol lygru nentydd a thir.

“Tu hwnt i’r effaith amgylcheddol, mae yna gost hefyd i ddynoliaeth. Mae trigolion yn sir Caerffili wedi cael hen ddigon o weld eu hamgylchedd yn cael ei ddifetha gan fagiau duon sbwriel, dodrefn a gwastraff wedi eu gollwng ger eu cartrefi a mannau hardd.

“Mae ffigyrau Rhyddid Gwybodaeth yn dangos cynnydd mewn digwyddiadau sy’n cyrraedd dros 3,500 o achosion wedi’u riportio yn 2024-25 yn unig gyda chymunedau fel Sant Martin, Ynysddu,  Sant Catwg, Cwm yr Aber a’r Coed Duon ymhlith a rhai a chânt eu heffeithio waethaf. Mae  trigolion yn haeddu strydoedd glan, mannau gwyrdd wedi’i gwarchod ac agwedd  sy’n atal problemau fel hyn rhag gwaethygu. “

Y wardiau â’r problemau tipio anghyfreithlon gwaethaf yn y drefn yma yw, Sant Martin, Ynysddu, Sant Catwg, Cwm yr Aber, y Coed Duon, Aberbargod, Bargoed, Tredegar Newydd, Penyrheol a Dwyrain Rhisga.