Mae arweinydd grŵp Plaid Cymru Charlotte Bishop wedi siarad yn blaen pan ddatgelwyd nad oedd swyddogion Cyngor Caerffili yn gallu cynnig eglurdeb, a oedd buddsoddiadau pensiwn yn cyd-fynd â phenderfyniadau am fuddsoddiadau moesegol.
Dywedodd y Cynghorydd dros Gwm yr Aber Charlotte Bishop: “Teimlais yn ddwys wedi cynnig y cynnig am fuddsoddiadau moesegol ynglŷn â’r sefyllfa yn Gaza, nad ydym yn gallu darparu eglurdeb llawn ynglŷn ag ydy’n holl fuddsoddiadau yn cyd-fynd â’r penderfyniad hynny.
“Mae’r rhain yn faterion o gonsyrn arwyddocaol dyngarol, ac maent yn cario pwysau sylweddol i nifer o drigolion yn ein cymuned. Pan fydd y cyngor yn cadarnhau cynnig ynglŷn â buddsoddiadau moesegol, yn fwyaf arbennig yng nghyd-destun gwrthdaro rhyngwladol, mae’n iawn fod trigolion yn disgwyl bod penderfyniad i weithredu’n glir, yn gyson a heb oedi.
“Mae hefyd yn blino na allwn ni gadarnhau yn ddiffiniol a oes unrhyw fuddsoddiadau a allai fod yn gysylltiedig, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, â Rwsia, yn arbennig, yn dilyn cynigion blaenorol yng Nghyngor Caerffili sydd yn mynd i’r afael â’r mater. Ar adeg pan fod safonau moesegol a hyder y cyhoedd yn holl bwysig, dyw ansicrwydd ddim yn ddigonol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Bishop: “Mae hyn yn codi mater sylfaenol: beth yw pwrpas pleidleisio ar gynigion os oes yn ansicrwydd ynglŷn ag ydyn nhw’n cael eu gweithredu?
“Nid datganiadau symbolaidd yw cynigion y cyngor. Maent yn benderfyniadau democrataidd ffurfiol sy’n cario awdurdod a disgwyliadau. Os oes yna rwystrau i’w gweithredu mae galw eu bod yn cael eu hegluro’n glir. Os oes yna gymhlethdodau o fewn strwythurau buddsoddi, rhaid adrodd ar y rhain mewn modd tryloyw. Dyw tawelwch neu amwysedd ddim yn dderbyniol.
“Byddaf yn gofyn yn ffurfiol am ddiweddariad llwyr, yn manylu ar sut yn gweithredir cynnig ar fuddsoddiadau moesegol, pa mor ddiwyd y bu’r ymchwil a pha warchodaeth sydd yn ei le er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â phenderfyniad y cyngor.
“Mae trigolion yn haeddu mwy na sicrwydd – maent yn haeddu tystiolaeth, eglurdeb ac atebolrwydd. Rydw i’n dal yn ymrwymedig bod penderfyniadau democrataidd y cyngor yma yn cael eu parchu mewn egwyddor ac mewn gwirionedd.”