Arweinydd y Blaid yn Mynnu Ailfeddwl Dros ‘Lwybrau Anniogel i Ysgolion’

Arweinydd y Blaid yn Mynnu Ailfeddwl Dros ‘Lwybrau Anniogel i Ysgolion’

Mae arweinydd grŵp Plaid Cymru yng Nghaerffili, Charlotte Bishop yn mynnu bod y cyngor, a reolir gan Lafur, yn ail ystyried y newidiadau dadleuol i drafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol oherwydd y perygl bod plant yn gorfod cerdded ar hyd heolydd “anniogel.”

Ystyriwyd bod nifer o’r llwybrau yn ddiogel  drwy i’r cyngor benderfynu bod 340 o ddysgwyr erbyn hyn, ddim yn gymwys i dderbyn trafnidiaeth yn rhad o fis Medi, ond mae’r cynghorydd dros Gwm yr Aber Charlotte Bishop wedi lobio’r awdurdod lleol dros y newidiadau rhwng Senghenydd a’i ward hi ac Ysgol Gymunedol Sant Cenydd.

Mewn llythyr i brif weithredwr ac arweinydd y cyngor, dywed Charlotte Bishop. “Mae gennyf gonsyrn difrifol am addasrwydd a diogelwch y llwybr hwn ar gyfer plant mor ifanc ac 11 mlwydd oed, yn enwedig yn ystod  cyflwr tywydd gaeafol a chyfnodau o dywyllwch a thywydd gwael.

“Dwy ddim yn credu bod yr asesiad yn adlewyrchu’n ddigonol amodau’r byd real a allai disgyblion eu hwynebu yn ddyddiol. A dyw e ddim yn rhoi ystyriaeth ddigonol na chonsyrn ymarferol a diogelwch sy’n gysylltiedig â rhannau o’r llwybr a chyflymder traffig.

“Gofynnaf yn barchus bod yr asesiad a’r casgliadau yn cael eu hail ystyried a bod asesiad annibynnol newydd yn cael ei wneud dan amodau llawer mwy realistig.”

Ychwanegodd Charlotte Bishop: “Amlygodd etholiadau diwethaf y Senedd yr hyn sy’n digwydd pan nad yw gwleidyddion yn gwrando ar gonsyrn dilys rhieni. Ddylai’r cyngor ddim bwrw ymlaen heb ystyried y newidiadau hyn.”

Mae’r newidiadau a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn tynhau’r meini prawf ar gyfer trafnidiaeth rad o’r cartref i’r ysgol drwy asesu a yw’r llwybr cerdded “ar gael”.

Dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru rhaid asesu llwybrau nid yn unig yn nhermau pellter ond hefyd ydyn nhw’n “resymol o ddiogel” ar gyfer plant sy’n cerdded. Dylid ystyried cyflymder traffig, goleuni, lled y palmentydd ac arwahanrwydd.