Arweinydd y Blaid yn Condemnio Cynlluniau £45m i Ailddatblygu Caerffili

Arweinydd y Blaid yn Condemnio Cynlluniau £45m i Ailddatblygu Caerffili

Mae cynlluniau £45m a ddadorchuddiwyd ar gyfer ail ddatblygu Canol Tref Caerffili wedi eu beirniadu’n hallt gan y Cynghorydd Charlotte Bishop, arweinydd grŵp Plaid Cymru.

Galwodd y Cynghorydd Charlotte Bishop, sy’n cynrychioli Abertridwr am Lafur, sy’n rheoli Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ailfeddwl, gan ddweud bod eu cynllun yn anwybyddu cymeriad a threftadaeth y dref.   

Mae cynllun 1.27 erw'r cyngor yn cynnwys gwesty 80-100 gwely, 48 rhandy preswyl, man hyblyg ar gyfer cynadleddau a phriodasau ac wyth uned bwyd a manwerthu newydd.

Ond dywedodd y Cynghoryddd Charlotte Bishop: “Mae Caerffili yn haeddu gwell na hyn. Dyw’r hyn sydd yn cael ei gynnig yr ochr draw i’r castell ddim yn adfywiad ystyrlon - mae e’n generig, datblygiad allan o’i le sy’n anwybyddu cymeriad a threftadaeth ein tref. 

“Mae arian cyhoeddus eisoes yn cael ei wario ar brynu eiddo a chynhyrchu cynlluniau heb fod hyd yn oed datblygwr ar gael. Nid cynllunio strategol yw hwn - hapchwarae yw e. Mae’n teimlo fel chwarae Monopoly gydag arian trethdalwyr.

“Ar adeg pan mae trigolion a busnesau lleol dan bwysedd gwirioneddol, sut gellir cyfiawnhau hyn? Hwn yw un o’r lleoliadau mwyaf pwysig. Dylai wella safle’r castell, gan barchu’r anesthetig sy’n bodoli yn y dref gan greu rhywbeth gall pobl ymfalchïo ynddo - nid rhywbeth a gellid ei ollwng i mewn i unrhyw stryd fawr unrhyw le yn y DU.

Dylem ni fod yn anelu tuag at
 
Ddylunio treftadaeth o ansawdd sensitif

Busnesau annibynnol a defnydd lleol ystyrlon

Datblygiad  sydd yn gyflenwol ac nid yn cystadlu â hunaniaeth Caerffili

Dylai adfywiad godi lle i fyny – nid gwneud yn fach o’r hyn sydd yn ei wneud yn neilltuol

 ·  Dylid oedi, Ailfeddwl. Dod â rhywbeth teilwng i Gaerffili – nid rolio’r dis gyda chyllid cyhoeddus.” anogodd y Cynghorydd Bishop.