Mae cynghorwyr Plaid Cymru wedi beio Llywodraeth Lafur y DU am dan ariannu’r cynnydd mewn Yswiriant Cenedlaethol a fydd yn costio o leiaf £313,000 i Gyngor Caerffili.
Beirniadwyd maint y tan ariannu – mewn adroddiad i gynghorwyr Caerffili – yn llym gan y Cynghorydd Colin Mann, dirprwy arweinydd grŵp y Blaid ar yr awdurdod.
Dywedodd y Cynghorydd Mann: “Gwnaed addewidion gan Lywodraeth Llafur drwy Ganghellor y Trysorlys Rachel Reaves i ariannu'r cynnydd yn yr YC ar gyfer y cyflogedig”.
Dywedodd y cynghorydd dros Lanbradach: “Gwelwn nawr beth yw’r effaith - £313,000 - a bydd hwn yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn gan ychwanegu’r pwysedd ariannol sydd ar yr awdurdod ac ar dalwyr trethi’r cyngor lleol a fydd yn wynebu’r gost un ffordd neu’r llall - drwy gynnydd yn nhreth y cyngor neu doriadau mewn gwasanaethau.
“Mae hyn yn enghraifft glir fel mae Cymru yn cael ein bradychu a’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn methu’n lân a chael y swm sy’n ddyledus llawn i Gymru. Beth felly a wneir o ddwy lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd?”
Mae Llywodraeth y Du yn darparu £185m ar gyfer yr YC, gan adael prinder o £72m â Llywodraeth Cymru ond yn darparu hanner y cynnydd allan o’u cronfa wrth gefn.
Ychwanegodd y Cynghorydd Colin Mann: “Mae’r sector gyhoeddus, wrth gwrs, mewn gwell man na’r elusennau, gan nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw beth ar gyfer talu costau uwch YC. Mae nifer o elusennau’n straffaglu i ddod i ben â hi a rhai wedi lleihau eu staffio i ymdopi â phwysedd ariannol.”
Datgelodd yr adroddiad i Gyngor Caerffili yn ogystal:
· Mae rhagolygon yn darogan na fydd gwerth £216,000 o gynigion arbed yn cael eu cyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol.
· Mae Ffos Caerffili yn wynebu diffyg o £69,000 sy’n golygu efallai bod yr awdurdod yn gorfod defnyddio arian grant i dalu’r costau hyn.