Aeld O’r Senedd Plaid Cymru Yn Annog Gweithredu Ar Oediad Pensiynau Gweision Sifil

Aeld O’r Senedd Plaid Cymru Yn Annog Gweithredu Ar Oediad Pensiynau Gweision Sifil

Dywed Aelod o’r Senedd Lindsay Whittle bod pobol yn dioddef oherwydd oedi wrth ddisgwyl pensiynau’r Gwasanaeth Sifil.

Mae e’n ceisio gwybodaeth hanfodol gan Swyddfa Cabinet y DU ynglŷn â phryd y gall etholwyr sydd wedi hir ymaros ddisgwyl derbyn taliadau sydd eisoes yn hwyr.

Dywed Lindsay Whittle: “Mae’r ôl-groniad yn effeithio’n ddifrifol ar fywydau pobol yn fy etholaeth Blaenau Gwent, Caerffili, Rhymni ac mae galw am i Capita sy’n gyfrifol ddelio gyda hyn, gan fod gweinyddiad cynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil, yn fater o frys.

“Gobeithiaf glywed newyddion cadarnhaol gan Lywodraeth y DU ynglŷn â chynnydd wrth ddatrys yr ôl-groniad annerbyniol hwn.”

Ysgrifennodd Lindsay Whittle mewn llythyr i Lywodraeth y DU: ”Rydym wedi derbyn gohebiaeth gan etholwyr â chonsyrn am oedi'r ôl-groniad yn Capita, a’u rheolaeth o gynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

“Mae rhai o’n etholwyr ag ymroddiadau ariannol sylweddol sy’n dibynnu ar eu pensiwn yn cael ei dalu yn brydlon. Ond mae rhai bellach wedi disgwyl ers misoedd ac yn gofidio bod yr oedi parhaol hyn ddim yn mynd i gael ei ddatrys mewn pryd.

“Deallaf fod Capita yn ddiweddar wedi gwneud datganiad yn dweud bod ganddynt brosesau a system mewn lle i ddatrys yr ôl-groniad, ond heb, hyd y gwn i, wneud unrhyw ddatganiad parthed llinell amser.”

Dywedodd Lindsay Whittle ei fod wedi deall bod Llywodraeth y DU wedi bod yn cynorthwyo Capita i ddatrys y materion hyn “ond mae llinell amser yn hanfodol ar gyfer rhai o’n hetholwyr sy’n bryderus ac mewn sefyllfa sy’n gynyddol anodd.”

Gofynnodd yr Aelod o’r Senedd a oedd unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn a pha bryd y byddai’r rhai sy’n disgwyl taliadau yn gallu cael eu talu.

 Gofynnodd

·       Oes yna derfyn amser wedi’i gytuno gyda Capita ynglyn â phryd bydd yr holl ôl-groniad yn cael ei ddatrys?

·       A fyddai’n bosib i chi neu’ch swyddogion i edrych i mewn i rai o achosion etholwyr sydd gennym?