Mae aelod Plaid Cymru yn y Senedd, Lindsay Whittle, wedi canmol ysgol yng Nghaerffili am ei gwaith yn cyflawni presenoldeb uchel gan y disgyblion.
Mae’r Aelod o’r Senedd dros Gaerffili, sydd wedi gwirfoddoli mewn dwy ysgol leol ar brosiect llythrennedd ers wyth mlynedd, wedi canmol presenoldeb o 98.2% yn Ysgol Gymraeg Caerffili ym mis Medi - dipyn yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol - mewn sesiwn gyflawn yn y Senedd ddoe (Dydd Mercher).
“Mae’n gyflawniad rhyfeddol ac yn dystiolaeth i ymroddiad y disgyblion, eu teuluoedd a’r staff yn gweithio gyda’i gilydd. Dylai’r hyn yr ydym yn ei weld yno ysbrydoli pob ysgol dros Gaerffili a Chymru. Mae perthynas gref gyda’r teuluoedd ac amgylchedd groesawgar yn wirionedd wneud gwahaniaeth.
“Felly, dangoswyd yn Ysgol Gymraeg Caerffili, ei bod yn bosib pan fydd buddsoddiadau yn lle cywir.”
Gofynnodd Lindsay Whittle faint o arian Swyddog Ymrwymiad Teuluol o £7m byddai’n mynd i fwrdeistref sirol Caerffili.
Diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, i Lindsay Whittle am y gwaith y mae ef yn ei wneud mewn ysgolion ar gyfer llythrennedd. “Rydw i’n wirioneddol groesawu hynny ac yn hapus i gynnwys fy llongyfarchiadau i Ysgol Gymraeg Caerffili.”
Dywedodd y byddai’r arian yn mynd i awdurdodau lleol ar sail fformiwla.