Anthony Cook Plaid Cymru yn Carlamu i Fuddugoliaeth yn Isetholiad Hengoed

 Anthony Cook Plaid Cymru yn Carlamu i Fuddugoliaeth yn Isetholiad Hengoed

Etholwyd Anthony Cook i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi iddo ennill isetholiad Hengoed.

Cyfrif y pleidleisiau oedd: Anthony Cook (Plaid Cymru) 509, Kimberly Heath (Reform UK) 371, Dan Kelly (Llafur) 101, David Ennings (Ceidwadwyr) 21, a David Scullin (Rhyddfrydwr Democrataidd) 16.

Hwn oedd pumed fuddugoliaeth Plaid Cymru dros Reform UK yn Sir Caerffili mewn ond deg mis, yn dilyn yr  Isetholiad Seneddol, Isetholiadau Penyrheol a’r Fan a phleidlais etholiad Seneddol Baenau Gwent, Caerffili, Rhymni.

Achoswyd yr isetholiad oherwydd ethol Donna Cushing, Plaid Cymru, i’r Senedd ym mis Mai.

Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop, arweinydd gwrthblaid Plaid Cymru, ar Gyngor Sirol Caerffili: “Rydw i wrth fy modd yn llongyfarch Anthony Cook ar ei fuddugoliaeth yn yr isetholiad.

“Dyma’r bumed tro i etholwyr yn y fwrdeistref sirol i wrthod Reform yn dilyn isetholiad Senedd Caerffili, isetholiad Penyrheol a’r Fan a phleidlais y Senedd ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Rhymni.

“Mae’r bleidlais hon yng Nghaerffili yn dangos bod mwy a mwy o bobol yn ymddiried yng ngweledigaeth gadarnhaol Plaid Cymru ar gyfer ein cymunedau. Ar yr un pryd, mae pleidiau sydd am rannu pobol drwy ofn, dicter a ffug wybodaeth yn colli tir wrth i drigolion ddewis gobaith, gwaith caled ac arweinyddiaeth leol yn hytrach.

“Bydd Anthony yn ased sylweddol i’n tîm. Mae e’n deall y gwahaniaeth rhwng llywodraeth leol a San Steffan, ac mae’n gwybod bod darparu ar gyfer pobol, gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr, y gymuned a sefydliadau lleol yn cyflawni canlyniadau gwirioneddol.

“Mae e’n adnabyddus, yn uchel ei barch ac yn anghredadwy o weithgar. Gydol ei ymgyrch dangosodd ymroddiad gwirioneddol drwy wrando ar bobol leol a sefyll dros  gymunedau Hengoed a Chefnhengoed.

“Fedra i ddim meddwl am well person i ymladd dros bobol Cefnhengoed a  Hengoed ac edrychaf ymlaen at weithio ochr yn ochr ag e wrth i ni barhau i adeiladu cryfach cymunedau ar draws sir Caerffili.”