Gwleidyddion Plaid Cymru yn Canmol Ymladdwyr Tân Wrth i Argyfwng Tanau Gwyllt Ddod i Ben

Gwleidyddion Plaid Cymru yn Canmol Ymladdwyr Tân Wrth i Argyfwng Tanau Gwyllt Ddod i Ben

Mae Aelodau’r Senedd Plaid Cymru wedi diolch i ymladdwyr tân a gweithwyr achosion brys eraill am eu gwaith yn mynd i’r afael â thanau gwyllt.

Daw'r  neges gan Aelodai Blaenau Gwent, Caerffili, Rhymni, Lindsay Whittle, Delyth Jewell a Niamh Salkeld yn sgil cyhoeddiad gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (SWFRS) bod y prif ddigwyddiadau tanau gwyllt wedi dod i ben.

Yn ystod uchafbwynt gweithgareddau mis diwethaf bu SWFRS yn ymateb i 14 o danau gwyllt ar y cyd ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Lindsay Whittle A.S.: “Bu gwaith yr ymladdwyr tân a gweithwyr brys eraill i warchod ein cymunedau yn hollol ryfeddol.

“Maent yn haeddu’r holl ganmoliaeth sydd yn bosib gan iddynt weithio dan amgylchiadau tu hwnt i ddychymyg i achub bywydau, eiddo a thir amaethyddol. Roedd hyn y tu hwnt i’w dyletswydd ac mae lle iddynt ymhyfrydu yn eu hymdrechion.

“Mae gennyf gonsyrn ar ran y ffermwyr a effeithiwyd, gan eu bod wedi gorfod  defnyddio cyflenwad gaeafol yn ystod y tywydd poeth.”

Dywedodd Delyth Jewell A.S.:  “Bu i’r haf hwn o fwg ddod â realiti’r argyfwng hinsawdd i’n cartrefi. Rydw i am dalu teyrnged i’r ymladdwyr tanau dewr am fynd i’r afael â’r tanau, a chlod hefyd i haelioni cymaint o fusnesau lleol a phobol yn cynnig bwyd i’w cynnal. Mae’n gyrru dyn i wylltio ei bod yn drech na rheswm i feddwl i rai o’r tanau yn ein cymoedd o bosib wedi cael eu cychwyn yn fwriadol.

“Byddir yn cynnal uwch gynhadledd mor gynted a bo modd, nawr bod y prif ddigwyddiadau bellach wedi dod i ben, i edrych i weld pa wersi brys y dylem ddysgu ohonynt ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Niamh Salkeld A.S. “Hoffwn ddiolch i’n gwasanaethau tân a brys, y bobl filwrol, cymunedau lleol, ffermwyr a chymaint o rhai eraill sydd wedi dangos dewrder anghredadwy a phenderfyniad yn ystod adeg tu hwnt o anodd.

“Mae graddfa a difrifoldeb y tanau gwyllt yma hefyd yn ein hatgoffa’n llym o’r risg y mae Cymru yn ei hwynebu oherwydd newidiadau i’n hinsawdd.  Rydw i’n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi uwch gynhadledd aml ddisgyblaeth ar gyfer y tanau gwyllt, fel ein bod yn gallu dysgu o’r hyn a ddigwyddodd, gan sicrhau bod ein cymunedau yn derbyn y gefnogaeth a’r adnoddau sydd arnynt eu hangen ar gyfer y dyfodol.”