AoS Plaid Cymru yn Annog Swyddfa’r Post i Ddod i Benderfyniad am Swyddfa Bost Caerffili

AoS Plaid Cymru yn Annog Swyddfa’r Post i Ddod i Benderfyniad am Swyddfa Bost Caerffili

Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd Lindsay Whittle yn annog Swyddfa’r Post i gymryd penderfyniad am weithredwr newydd ar gyfer Swyddfa Bost canol tref Caerffili sy’n cau ddiwedd yr wythnos hon.

Gwthiodd Lindsay Whittle y mater pan roddodd Swyddfa’r Post arddangosfa yn y Senedd yr wythnos hon.

Dywedodd Lindsay Whittle: “Mae galw ar i Swyddfa’r Post ddatrys hwn fel mater o flaenoriaeth. Maent wedi cael rhybudd ers misoedd lawer bod Swyddfa’r Post yn TJJones, Cwrt y Castell yn cau.

“Deallaf fod dau fusnes yng nghanol y dref wedi cynnig eu hadeiladau yn safle ar gyfer swyddfa newydd. Mae swyddogion y Swyddfa Bost wedi ymweld â’r ddau, felly mae’n bryd eu bod yn cymryd penderfyniad.

“Mae cau Swyddfa’r Post ganol y dref wedi bod yn anghyfleus iawn i bobol am y bydd yn rhaid iddynt deithio naill ai i Castle View neu Penyrheol sydd yn dipyn o bellter i rai.

“Mae angen datganiad ar y cyhoedd gan Swyddfa’r Post yn gosod allan y sefyllfa bresennol a rhoi manylion pa bryd fydd y swyddfa newydd yn agor.”