Mae Lindsay Whittle, Aelod y Senedd, wedi codi gwerthiant fferm solar ‘Arian y Teulu’ gan gyngor Llafur, Caerffili, gyda’r Prif Weinidog.
Mae’r AS dros Flaenau Gwent, Caerffili a Rhymni, sy’n gyn arweinydd yr awdurdod lleol, wedi gofyn i Rhun ap Iorwerth: “Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru yn cymryd i sicrhau y bydd gan brosiectau egni adnewyddol yn cael effaith cadarnhaol ar gymunedau lleol yn hytrach na bod yn ddim byd yn fwy na baich a hyllbeth?
Dywedodd Lindsay Whittle sy’n feirniadol iawn o’r gwerthiant: “Brif Weinidog, mae’r penderfyniad gan gyngor Llafur Cyngor Sirol Caerffili i breifateiddio prosiect fferm solar Cwm Ifor wedi amddifadu’r cyhoedd o’r hyn a fwriadwyd yn ased fflaglong werdd.
“Cafodd trigolion lleol addewid y byddai llif o incwm hir dymor i wella cyfleusterau lleol ac i gefnogi grwpiau cymunedol, ond yn lle hynny cafwyd dêl gyda ffyrm breifat a chafodd ei werthu. Mae ‘arian y teulu’, bellach wedi mynd.
“Pa arweiniad gall Llywodraeth Cymru gynnig i atal cynghorau rhag camreoli datblygiadau gwyrdd drwy osgoi hawl y gymuned i gael gwybod?”
Wrth ymateb, dywedodd Rhun ap Iorwerth y Prif Weinidog, wrth Lindsay Whittle: “Rydw i’n ymwybodol a nodaf eich consyrn am y prosiect neilltuol yna. Wrth gwrs, gyda phrosiectau penodol, penderfyniadau i awdurdodau lleol i’w cymryd ydyn nhw.
“Rydw i hefyd, wrth gwrs, yn cydnabod y pwyntiau ehangach mae’r aelod yn eu gwneud er mwyn sicrhau bod cymunedau lleol yn rhan o brosiectau ac yn cael y; cyfle naill ei i’w perchnogi neu gael ymdeimlad o berchnogaeth o brosiectau yng Nghymru. Ac, am rhy hir, mae Cymru wedi lletya prosiectau egni heb fedru cadw digon o’r cyfoeth y maent yn eu creu, ac mae hynny ar fin cael ei newid.
“Os yw tir Cymru, gwynt Cymru, dŵr Cymru neu wely’r môr yn creu cyfoeth, cred y Llywodraeth hon y dylai pobol Cymru weld mwy o’r cyfoeth hynny fel ein bod yn gallu ei fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Ac, ar lefel y prosiect, byddwn yn ehangu cynlluniau mwy i sicrhau cynnig perchnogaeth gymunedol wirioneddol , gyda model buddiant lleol cyfwerth, taliad cronfa cyfoeth, neu fecanwaith clir arall, ond pan fod ecwiti ddim yn wirioneddol anymarferol. Ond mae hwn yn rhywbeth sydd yn rhaid i ni allu gweld ei fod yn newid.”