Mae’r Aelod o’r Senedd, Lindsay Whittle, wedi gwasgu’r achos dros well gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghaerffili a Blaenau Gwent gyda’r Prif Weinidog
Mae’r AoS dros Flaenau Gwent, Caerffili a Rhymni wedi dweud y byddai gwell gwasanaethau rheilffyrdd yn cynnig gwell cyfleoedd i bobl yn yr ardal i gael mynediad i brif ganolfannau poblog.
Mewn cwestiwn i Rhun ap Iorwerth yn y Senedd, dywedodd Lindsay Whittle: “Mae trigolion Nelson wedi ymgyrchu dros ail agor y cysylltiad rheilffordd i brif lein Cwm Rhymni am flynyddoedd lawer. Bu trafodaethau am ymestyn y lein o Lyn Ebwy i Gyfnewidfa arfaethedig Trafnidiaeth Abertyleri fel rhan o Ardal Prifddinas Caerdydd. Mae’n fater sydd yn parhau.
“Byddai ymestyn rheilffyrdd i’r ardaloedd hyn yn darparu gwell cyfleoedd a mynediad i ganolfannau bras o gwmpas de Cymru a gweddill Prydain.
“Wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau, os gwelwch yn dda, y bydd trafodaethau perthnasol gydag awdurdodau’r rheilffyrdd yn parhau hyd nes ein bod yn cyrraedd ein huchelgais gan roi i’r ddau gwm balch yma well mynediad achos maen nhw’n dibynnu arnom ni?”
Dywedodd y Prif Weinidog: “Drwy weithio gyda Thrafnidiaeth i Gymru, byddwn yn cynnig gwell gwasanaethau rheilffyrdd ar gyfer Blaenau Gwent, Caerffili a Rhymni gyda mwy o drenau a gwasanaethau mwy cyflym a dibynadwy gyda buddsoddiadau mewn gorsafoedd, gan gynnwys Cyfnewidfa Caerffili.”
Mae’r Prif Weinidog wedi dweud y bydd ei lywodraeth wedi ymrwymo i wella gwasanaethau mewn cymunedau wedi’u hynysu o ansawdd dda a dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn ceisio datganoli’r rheilffyrdd.
“Lle mae gennym reolaeth ar leiniau creiddiol y Cymoedd, er engrafiff, gwnaed y penderfyniad i agor y lein i Nelson a rhwng Aberdâr a Hirwaun. Ond mae’r ail agor yn galw am ariannu sylweddol. Dyna paham y mae angen ariannu teg arnom ar gyfer y rheilffyrdd gan Lywodraeth y DU. Dychmygwch beth allen ni wneud gyda £5m o’r arian sy’n ddyledus i ni oherwydd HS2.”