AoS Plaid Cymru yn Canmol Awdur Teyrnged Caerffili i’n Harwyr

 AoS Plaid Cymru yn Canmol Awdur Teyrnged Caerffili i’n Harwyr

Mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru Lindsay Whittle wedi canmol awdur lleol gan fod ei lyfr yn adrodd yr hanes y tu ôl i lawer o bron i 200 o enwau ar gofadail Caerffili.

Mae’r llyfr,  The Great War 1914 - 1918. Caerphilly's War Dead Remembered, wedi ei gysodi gan yr awdur Paul Williams , sy’n gobeithio y caiff ei gyhoeddi mis nesaf.

Dywedodd Lindsay Whtitle: “Mae hwn yn ddarn o waith hynod, syfrdanol ac yn llawn ymdrech sy’n cynrychioli teyrnged ryfeddol i arwyr rhyfel Caerffili yn y gorffennol.

“Bydd hwn yn lyfr rhaid ei ddarllen i  unrhyw un sydd wedi gwasanaethu mewn rhyfel ac ar gyfer hen deuluoedd Caerffili. Yn wir, ar gyfer pawb sydd yn gysylltiedig â’r dref. Mae’n darlunio mor falch y dylem ni fod o’r sawl a dalodd yr aberth eithaf er sicrhau ein bod yn byw yn rhydd heddiw mewn democratiaeth.”

Dywedodd bod darllen darn cyn pryd o lyfr Paul Williams wedi dwyn i gof cyn athro, Don Bradfield, a wasanaethodd yn yr Ail Ryfel Byd. Bu farw tad yr athro WJ Bradfield yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dywedodd Lindsay Whittle: “ Don Bradfield oedd yr athro gwaith coed yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Caerffili. Arferai  adrodd wrth y bechgyn ei amser fel ôl ynnwr mewn awyren fomio Lancaster. Buon ni’n byw'r Dambusters gydag ef. Roedd ef yn arwr a bydden ni’r bechgyn wedi ei ddilyn drwy dân.

“Cofiaf ei angladd gyda channoedd o gyn ddisgyblion yn bresennol a nhw’n cario’r arch i mewn i’r amlosgfa tra’n chware thema'r Dambusters. Doedd yna ddim llygad sych yn y lle.”