AoS Plaid Cymru yn Galw ar i Gynghorau Uno i Fynnu Ariannu Teg

AoS Plaid Cymru yn Galw ar i Gynghorau Uno i Fynnu Ariannu Teg

Anogir awdurdodau lleol gan Aelod o’r Senedd Lindsay Whittle i ymuno gyda Llywodraeth Cymru i wasgu am ariannu teg ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd cyn arweinydd cyngor Caerffili wrth y Senedd: “Wedi gwasanaethu mewn llywodraeth leol am bron iawn i 50 mlynedd, fel cynghorwr lleol, rydw i wedi gweld y difrod gyda’m llygaid fy hun. Mae ein cynghorau yn cael eu hymestyn i’r eithaf ac mae gwasanaethau cyhoeddus o dan straen digynsail.”

Dywedodd Lindsay Whittle sy’n cynrychioli Blaenau Gwent, Caerffili a Rhymni ei bod yn fater o argyfwng bod y sustem bresennol o ariannu yn cael ei newid.

“Mae adnewyddu’r fformiwla ariannu bresennol yn cyfyngu llawn botensial datganoli. Gyda’n gilydd, gallai’r Senedd, gyda’r holl gynghorau hyd a lled Cymru, fod yn nerth unedig er mwyn sicrhau gwell ariannu i’n gwlad.

“Rhaid i’r penderfyniadau ynglŷn â Chymru gael eu gwneud yng Nghymru. Mae datganoli yn ymwneud â realiti ar stepen ein drws, ein hysgolion, ein hysbytai, ein hawl i lunio ein dyfodol a’r hawl i reoli ein hadnoddau ein hunain.”

Wrth ymateb dywedodd Dafydd Trystan Davies, Gweinidog y Cabinet dros Effeithlonrwydd a’r Cyfansoddiad, iddo godi’r mater o ariannu teg mewn cyfarfod o weinidogion y DU ym Melfast y mis diwethaf.

“Gobeithiaf yn fawr iawn  y bydd  y Senedd hon a chynghorau ar draws Cymru yn siarad ag un llais, i sicrhau ariannu teg i Gymru. Byddwn yn parhau i wasgu Llywodraeth y DU am welliant i’r trefniadau presennol.”