Arweinydd Plaid Cymru yn Condemnio Defnydd Plaid Wleidyddol o Logo’r Cyngor ar Daflen Lafur

Mae Plaid Cymru wedi cwyno i Brif Weithredwr Cyngor Caerffili wedi i’r Blaid Lafur gynnwys logo swyddogol yr awdurdod mewn taflen wleidyddol ar gyfrwng cymdeithasol.

Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop, arweinydd grŵp Plaid Cymru bod neges y blaid Lafur yn ddigywilydd, yn bleidiol wleidyddol ac ni ddylai fod wedi cyfeirio mewn unrhyw ffordd at yr awdurdod lleol.

ewn e-bost at Brif Weithredwr y cyngor Ed Edmunds, ysgrifennodd y cynghorydd Charlotte Bishop: “Byddwn i’n ddiolchgar petai chi’n gallu gwneud yn eglur a oedd awdurdod dros ddefnyddio logo Cyngor Sirol Caerffili ar y daflen amgaeedig.

Mae’r daflen yn cynnwys neges wleidyddol glir yn cyfeirio at Blaid Cymru, eto’n arddangos yn glir logo brandio corfforaethol. Am fod  hwn yn ymddangos yn rhan o ddeunydd pleidiol gwleidyddol yn hytrach na chyhoeddiad  swyddogol y cyngor, mae gen i gonsyrn bod hunaniaeth y cyngor wedi’i ddefnyddio mewn ffordd y gellid awgrymu’n gryf ardystiad sefydladaidd neu’n cyfaddawdu dyletswydd y cyngor  tuag at duedd gwleidyddol.

“Fedrwch chi gadarnhau, os gwelwch yn dda:

·       A geisiwyd caniatâd neu a’i roddwyd ar gyfer defnyddio logo’r cyngor ar y daflen hon?

·       A  ydy’r defnydd hwn yn cydymffurfio â pholisi brandio’r cyngor ac unrhyw ganllawiau arweinyddol?

·       Os oedd y defnydd heb ei awdurdodi, a ydy’r cyngor yn bwriadu cymryd camau pellach?

Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop y dylai arweinydd Llafur y Cyngor, Jamie Pritchard sicrhau bod y daflen yn cael ei symud oddi ar y cyfryngau cymdeithasol ac i ymddiheuro am y gwall difrifol hwn.

Allwn ni ddim dioddef sefyllfa lle mae’r blaid Lafur yn ceisio cyfreithloni eu dadl drwy ddefnyddio logo’r cyngor a dyw hynny ddim yn dderbyniol.”

ywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop hefyd bod deunydd ymgyrchu’r blaid Lafur yn hawlio bod Plaid Cymru mewn rhyfel yn erbyn addysg ac mae hyn yn drewi o ragrith pur.

eddai’r  Cynghorydd Charlotte Bishop: “Wnawn ni ddim derbyn unrhyw wersi gan y Cynghorydd Carol Andrews, aelod addysg Llafur yng Nghabinet Caerffili.

Carol Andrews yw’r cynghorydd a arweiniodd at ddileu cludiant o’r cartref i’r ysgol ar gyfer cannoedd o ddisgyblion, gan anwybyddu ofnau diogelwch rhieni sydd yn naturiol yn gofidio ynglŷn â’u plant yn gorfod cerdded ar hyd ac ar draws heolydd prysur iawn. Mae Llafur yn bod yn hollol ragrithiol.”

eirniadodd taflen Llafur Lywodraeth Plaid Cymru ynglyn â gofynion addysg ychwanegol (ALM) dros anghenion addysg ychwanegol, ariannu a chyflogau athrawon gan anwybyddu ymroddiad a gyhoeddwyd am addysg a gwasanaethau cyhoeddus.

“Deunydd gorffwyll yw hwn gan grŵp Llafur yng Nghaerffili sydd yn ofnus iawn am eu disgwyliadau yn etholiadau’r cyngor y flwyddyn nesaf. Maen nhw’n iawn i fod felly, gan y bydd pobol yn gweld drwy eu hymdrechion i gamarwain y cyhoedd.”

“Mae pobol y haeddu gwleidyddiaeth wedi’i seilio ar ffeithiau, nid storiau sy’n codi ofn. Byddai hawlio bod Plaid Cymru ‘mewn ‘rhyfel yn erbyn addysg’ ddim yn gwrthsefull archwiliad manwl.”