Arweinydd Plaid Cymru yn Talu Teyrnged i Tristan Kerr

Arweinydd Plaid Cymru yn Talu Teyrnged i Tristan Kerr

Mae Charlotte Bishop, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Caerffili, wedi talu teyrnged i’r glaslanc 17 mlwydd oed Tristan Shae Karr a fu farw’r wythnos ddiwethaf.

Dywedodd y  Cynghorydd Charlotte Bishop, sy’n cynrychioli Abertridwr: “Mae Tristan yn haeddu caredigrwydd a pharch. Roedd e’n cyfrif. Roedd yn rhan o’i gymuned, a bydd ei deulu a’i ffrindiau yn dal i alaru ar ei ôl pob dydd.

“Roedd gan Tristan hiwmor direidus a fyddai’n dod allan pob amser yn disgleirio, ac fe ddangosodd barch tuag at y sawl a ddeliau ag e â pharch. Roedd ganddo dipyn o addewid, ac roedd nifer ohonom yn edrych ymlaen at ei weld e’n tyfu i mewn i’r potensial hynny, i ddod y fath o berson a ddisgwylid iddo fod.

“Roedd ei fywyd yn werth mwy na’r funud yr aethpwyd ag ef i ffwrdd – ddim hyd yn oed yn 18 – ddylai byth fod wedi dod i ben fel hyn. Mae’r boen a adawyd ar ei ôl yn cyrraedd y tu hwnt i un funud ac un teulu, yn cyffwrdd â chymuned gyfan.

“Dyna pam na allwn ni aros yn fud. Gall cyllyll arwain at drasiedïau gan adael tor calon a fydd yn parhau am oes. Mae’n ddyled arnom i Tristan, a phob person ifanc, i wynebu’r mater gyda gonestrwydd, gofal a phenderfyniad.

“Cofiwn am Tristan â chariad. Daliwn ei deulu a’i ffrindiau yn ein calonnau. A hiraethwn nid yn unig am y bywyd a gollwyd ond am y dyfodol a ddylai fod wedi bod.

“Gorwedd mewn hedd, Tristan”

“Gwelir dy golli, ond wnei di byth yn angof.”

Anogodd y Cynghorydd Charlotte Bishop i bobol i beidio dyfalu, ac atal lledaenu sïon gan gyflwyno ffeithiau yn unig rag llesteirio archwiliad yr heddlu a’r erlyniad.

Dywedodd Aelod y Senedd dros Dde-ddwyrain Cymru: “Mae’r gymuned gyfan yn galaru am golled bywyd ifanc. Diolchaf i’r awdurdodau am y gwaith y maent yn ei wneud gan obeithio ac ymddiried y bydd y gefnogaeth yn dal i fod ar gael ar gyfer unrhyw un yn y gymuned sydd a’i angen yn ystod y dyddiau a’r wythnosau i ddod. Mae’n meddyliau ni gyda chymuned Abertridwr yn ystod yr adeg drist yma.”

·  Mae pedwar person wedi’u cyhuddo o lofruddio Tristan Kerr.