Mae Plaid Cymru wedi cynyddu eu beirniadaeth am arwerthiant fferm solar oedd yn berchen i’r cyngor wedi i bris yr arwerthiant gael ei ddatgelu. Daeth hyn wedi cais Ryddid Gwybodaeth.
Dwedodd yr awdurdod a reolir gan Lafur, mewn ymateb i’r cais gan Blaid Cymru, iddynt dderbyn £2,693,428 o’r arwerthiant ond gwnaeth costau’r arwerthiant leihau hyn o £168,379 hyd yn hyn a £1,364,368 oherwydd y gost o ddatblygu’r safle, yn gadael £1,160,681,52.
Ond dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop, arweinydd grŵp gwrthblaid Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CCBC): “Fy nghonsyrn i yw, nid yn unig, a wnaeth y cyngor elw. Mae’n fater o a werthodd y cyngor ased strategol cyhoeddus a ellid fod wedi dod ag incwm yn rhy gynnar, gyda’r potensial o roi i ffwrdd degawdau o incwm yn y dyfodol er mwyn un wobr sydyn yn unig.
“Byddai gen i ddiddordeb o gael gwybod ai’r gwerthiant hwn oedd yn cynnig y gwerth am arian gwirioneddol i’r trethdalwyr. A fu yna werthusiad annibynnol? Sawl cais a dderbyniwyd? A wnaeth y cyngor gymharu pris yr arwerthiant gyda’r incwm y gallai’r fferm solar wedi’i hennill dros y 25 - 30 mlynedd nesaf, petai’r cyngor wedi glynu wrth berchnogaeth y fferm? A lle aeth y £1.16 miliwn?
Dywedodd Lindsay Whittle, Aelod y Senedd dros Flaenau Gwent, Caerffili a Rhymni:”Mae’r arwerthiant hwn yn blasu o ddiffyg edrych ymlaen gan Lafur, rhywbeth yr ydym wedi hen gyfuno ag e ar hyd y blynyddoedd. Elw ariannol yn y byr dymor ond ar draul incwm parhaol hir dymor.
“Dyma enghraifft o ddulliau marwol Llafur, diffyg gweledigaeth ac enghraifft arall o pam mae’r cyhoedd wedi troi yn erbyn Llafur byth i ddychwelyd. Mae ‘Fuse Energy’ yn chwerthin pob cam i’r banc.”