Plaid Cymru yn mynd â’r ddwy sedd oddi ar Lafur yn Isetholiadau Sirol Caerffili a Chyngor Cymunedol y Fan
Daw llwyddiannau diweddaraf Plaid Cymru yng Nghaerffili i ddilyn isetholiadau’r Senedd a chyngor Penyrheol a enillwyd y llynedd.
Y bleidlais dros y sir oedd Plaid Cymru 374, Reform 246, Llafur 231 a’r Rhyddfrydwyr Democrataidd 12. Ac ar gyfer Cyngor Cymunedol y Fan Plaid Cymru 234 a Reform 141.
Llongyfarchiadau felly i Jeff Grenfell ac Alison Vyas.
Dywedodd y Cynghorydd Charlottee Bishop, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: “Allwn ni ddim bod yn fwy balch heddiw. Llongyfarchiadau i Jeff am ennill isetholiad y sir ac i Alison am gael ei hethol i sedd ward ar gyngor cymunedol y Fan
“Rydw i wedi ‘mhlesio bod pleidleiswyr y Fan wedi gwrthod yn gadarn wleidyddiaeth ymrannol Reform DU.
Rydw i wedi gwylio’r ddau yn rhoi o’u hamser - y sgyrsiau tawel, gwrando, troi i fyny pan nad oes camerâu yno. Dydyn nhw ddim yn gwneud hyn er mwyn cydnabyddiaeth a dydyn nhw ddim yn gwneud addewidion crand. Maent yn gwneud yr hyn maent yn ei wneud am eu bod yn wirioneddol eisiau gofalu am bobol.
Yr hyn sy’n cyfrif i fi’n bennaf yw calon – and mae hynny ganddyn nhw mewn digonedd. Maent yn gofalu am eu cymunedau y ffordd y dylai teulu wneud, yn amyneddgar a charedig a chyda pharch i bob un llais.