Cynghorwyr y Blaid yn Annog Cyflymu Prynu’r Tir ar gyfer Pont Droed y Rheilffordd

Cynghorwyr y Blaid yn Annog Cyflymu Prynu’r Tir ar gyfer Pont Droed y Rheilffordd

Mae cynghorwyr Plaid Cymru Colin Mann a Gary Enright yn gwasgu am i’r broses o brynu tir gael ei gyflymu  fel bod pont droed, a ddifrodwyd bu mlynedd yn ôl, yn cael ei hadnewyddu.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gofyn i swyddogion cyngor Caerffili i wneud prynu’r tir yn  orfodol fel y gellir gwneud y gwaith i adnewyddu’r bont droed yn Nhynygraig yn Llanbradach.

Dywedodd y Cynghorydd Mann: “Dywedodd swyddogion wrthyf y byddai proses y pryniant gorfodol yn debygol o gymryd rhwng chwech a naw mis i’w gwblhau. Rydw i’n gwasgu i hyn gael ei gyflymu oherwydd bod Llanbradach wedi bod heb y bont yma ers cymaint o amser. Does neb wir wedi egluro pam fod y proses yn cymryd cymaint o amser.”

Dywedodd y cyngor ei bod yn parhau i wthio’r cynnydd ar y CPO a bod y dogfenni yn ddyledus gan gyfreithwyr yr awdurdod yn eithaf buan.

Ychwanegodd ei gyd gynghorydd dros Lanbradach: “Mae’r saga yma wedi parhau yn rhy hir. Mae’n naturiol bod y bobol am weld adnewyddu’r cyswllt yma ac mae’n rhwystredig bod y broses yn cymryd cymaint o amser.”