Cynghorydd Plaid Cymru yn Annog Gwirio Risg ar Dir Wedi’i Halogi

Cynghorydd Plaid Cymru yn Annog Gwirio Risg ar Dir Wedi’i Halogi

Mae Cynghorydd Plaid Cymru, Steve Skivens, yn galw am i bob darn o dir wedi’i halogi yn Sir Caerffili i gael asesiad o risg gan yr awdurdod lleol.

Gwnaeth y cynghorydd dros Benyrheol ei apêl yn sgil adroddiad gan Gyfeillion y Ddaear Cymru. Ucheloleuwyd y ffaith bod 27 safle wedi'u henwebu o fewn y fwrdeistref gan  gemegyn PCB - Polychlorinated Biphenyls - ym Mhenrhos, Caerffili a chwareli Tŷ Llwyd, Ynysddu.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Skivens, sy’n cynrychioli Penyrheol lle mae safle Penrhos:  “Mae Cyfeillion y Ddaear wedi dangos yn ddiweddar eu bod yn credu bod yna rhyw 45,000 o safleoedd yng Nghymru sy’n cynnwys mannau wedi’u halogi.

“Mae Plaid Cymru yn galw ar awdurdodau lleol fel Caerffili, i gynnal asesiadau risg yn y safleoedd hyn i ddangos yn glir a ydynt wedi’u halogi a beth yw lefel risg i les pobol ac anifeiliaid a’u hiechyd. Y rhai sydd wedi’u halogi fwyaf y dylid mynd i’r afael â nhw yn gyntaf.

“Rydym am i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gwneud eu dyletswydd, a bod yn sawl sy’n halogi tir yn cael eu herlyn,” ychwanegodd Steve sy’n aelod o Ymgyrch Tirlenwi'r DU.

Ychwanegodd y Cynghorydd Steven Skivens: “Gellid trefnu adfer safleoedd risg uchel er mwyn sicrhau diogelwch ein cymunedau a’n hamgylchedd. Mae’r gwaith ar ddelio â thomeni gwastraff glofeydd a chloddio yn dangos y ffordd ymlaen sut i fynd i’r afael â thir wedi’i halogi.

“Rydym yng Nghymru yn  llusgo y tu ôl i wledydd eraill wrth ddod â halogwyr i gyfrif ac mae galw am newid hyn. Dyw anwybodaeth ddim yn esgus ac ond yn gwaethygu’r mater."