Cynghorydd y Blaid yn Beirniadu’n Llym y Gost Diarddel Gweithwyr

Cynghorydd y Blaid yn Beirniadu’n Llym y Gost Diarddel  Gweithwyr

Mae cymaint â 37 o weithwyr Cyngor Caerffili wedi’u diarddel yn ystod  2024-25 ond mae swyddogion yn gwrthod datgelu'r gost ariannol sydd i’r awdurdod.

Mae Cyd-Ddirprwy Grŵp Plaid Cymru, Gary Enright, ei hun yn gyn weithiwr yn yr awdurdod wedi beirniadu’r methiant i ddarparu costau manwl y diarddel.

Datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth (FOI) gan Blaid Cymru hefyd bod y diarddeliad mwyaf erbyn dyddiad y cais yn rhedeg i 346 diwrnod calendr.

Dywedodd y Cynghorydd Gary Enright: “A dweud y gwir, mae’n anodd credu nad yw’r cyngor yn gallu darparu gwybodaeth y gofynnir amdano drwy ond wasgu botwm.

“Mae gan drigolion yr hawl i wybod sut y mae arian trethdalwyr yn cael ei wario, a dylai swyddogion ddim cuddio y tu ôl i gymal FOI i beidio datgelu. Os nad oes unrhyw beth i’w gelu yna dylai’r cyngor fod yn agored a gonest am broses sy’n achosi consyrn. Beth sydd gan arweinydd newydd y cyngor i ddweud am y cyfrinachedd hwn?

“Mae’r cyflogau ar gyfartaledd rhwng £13,621 - £44,873, felly o gymryd y set gyntaf o 37 a gafodd eu diarddel gan Gyngor Caerffili yn ystod 2024-25 mae hynny ac amcangyfrif o rhwng £1.2m - £16m sydd ond yn amcangyfrif achos, wrth gwrs, dydy’r data ddim gennym ni. Byddai unrhyw un o’r symiau hyn wedi bod yn ddigon i arbed llyfrgelloedd a Llancaeach Fawr rhag cau.

“Bydden i wedi disgwyl ymateb llawnach ac mewn mwy o ddyfnder gan sefydliad o faint Cyngor Caerffili. Rydw i’n amau eu bod yn dal yn ôl, nid oherwydd yr amser i weithio ar y ffigyrau, ond am fod y ffigyrau’n dod a dagrau i’r llygad. Mae’r ffaith bod swyddogion yn dadlau y byddai’n cymryd amser i weithio hyn allan yn ei hunan yn dystiolaeth nad yw broses yn cael ei rheoli’n rymus.

“Yn y pen draw, os oes gennych system rymus ar gyfer Cyflogi Gweithwyr, system sy’n rheoli diarddel yn gywir, dylai’r ffigyrau hyn fod ar gael yn barod ac os nad ydynt yna, dylent fod. Mae hyn yn peri gofid oherwydd fedrwch chi ddim llywodraethu os nad ydych yn rheoli,” ychwanegodd y Cynghorydd Gary Enright.