Cynghorydd y Blaid yn Amau Ymroddiad y Cyngor i Fioamrywiaeth Sero Net

Cynghorydd y Blaid yn Amau Ymroddiad y Cyngor i Fioamrywiaeth Sero Net

Mae cynghorydd Plaid Cymru, Aneurin Minton, wedi gofyn ei gwestiwn cyntar yn siamber Cyngor Caerffili ers ei ethol mewn is-etholiad ym mis Rhagfyr.

Holodd y Cynghorydd Aneurin Minton, a gadwodd sedd Penyrheol i Blaid Cymru wedi i Lindsay Whittle gael ei ethol i’r Senedd, swyddogion mewn cyfarfod o Gyd Bwyllgor Craffu’r Cyngor.

Gofynodd; “O gofio i’r cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd a’i ymroddiad i gyflawni sero net, ydy’r swyddogion yn gallu egluro sut bydd cyllideb 2026-27 yn cefnogi’n benodol gynnydd bioamrywiaeth a mesurau datgarboneiddio o fewn ein cymuned?

Dywedodd y Cynghorydd Aneurin Minton ei fod yn pryderu am ddiffyg ariannu ar gyfer bioamrywiaeth a phrosiectau sero net yng nghyllideb y cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

“Mae’r cyngor wedi gosod targed i fod yn sero net erbyn 2050 ac maent hefyd â tharged bioamrywiaeth ond dydyn nhw ddim yn glynu wrtho.”