Mae'r wal flinedig a di-lun o flociau sment o gylch dwy ysgol yng Nghaerffili i’w trawsnewid drwy furlun lliwgar.
Dywedodd cynghorydd Penyrheol Plaid Cymru Aneurin Minton y byddai artistiaid graffiti a murluniau Tee2Sugars yn dechrau gwaith yr wythnos nesaf i drawsnewid rhan o’r wal sydd o gwmpas Ysgol Gymunedol Sant Cenydd ac Ysgol Gynradd Hendre.
Dywedodd y Cynghorydd Aneurin Minton, sy’n gynghorydd Cymunedol a Chyngor Sirol: “Rydw i’n cofio’r wal salw yma ers yr adeg yr oeddwn i yn yr ysgol ac mae ei olwg wedi gwaethygu dros y blynyddoedd.
“Tra’n gweithio gyda’r Cyngor Cymunedol, bu’r disgyblion a’r staff ar gennad i drawsnewid y man llwyd diolwg hwn i mewn i rhywbeth neilltuol. Ein nod yw trawsnewid y wal yma i mewn i furlun sy’n arddangos hanes ein cymuned a’n cwm wrth y fynedfa i’r gymuned.
"Oherwydd eu safle, mae miloedd o fodurwyr yn mynd heibio i’r mur yma dwywaith y dydd ar eu ffordd i ac yn ôl i’w gwaith, felly roeddem am greu llawer gwell golygfa.”
Eglurodd y bod yr arian ar gyfer y murlun wedi dod o Ardoll Isadeiledd Cymunedol Cyngor Caerffili. Codir tâl ar ddatblygwyr â’r arian a gasglir yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwelliannau cymunedol.
“Mae’r murlun hwn yn rhan o fenter ehangach er mwyn gwella cyfleusterau cymunedol fel mannau chwarae, meinciau, biniau, teledu cylch cyfyng a gwaith artistic pellach,” ychwanegodd y Cynghorydd Aneurin Minton.