Blaid yn Condemnio Cynlluniau sy’n Golygu Bod Disgyblion yn Cerdded ar Lwybrau ‘Anniogel’ i’r Ysgol

Blaid yn Condemnio Cynlluniau sy’n Golygu Bod Disgyblion yn Cerdded ar Lwybrau ‘Anniogel’ i’r Ysgol

Mae gwleidyddion Plaid Cymru wedi beirniadu newidiadau  dadleuol ar gyfer trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol, ac yn rhybuddio y bydd hyn yn arwain at nifer o blant yn gorfod cerdded ar hyd heolydd anniogel.

Mae naw llwybr wedi’u barnu’n anniogel gan Gyngor Caerffili a bydd 340 o ddysgwyr yn yr ardal ddim bellach yn teilyngu trafnidiaeth rad i’w hysgolion wedi diwedd tymor yr haf, a dywedwyd wrth rieni a gofalwyr bod yn rhaid iddynt wneud eu trefniadau teithio eu hunain  er sicrhau  presenoldeb cyson yn yr ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bod rhieni a chynghorwyr ar draws Caerffili yn feirniadol iawn  o’r newidiadau dadleuol ar hawl i gludiant ysgol yn golygu bod disgwyl i blant gerdded llwybrau, maen nhw’n credu, sydd yn beryglus ac yn anaddas ar gyfer teithio yn y gaeaf.

Mae’r newidiadau a gyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn tynhau’r meini prawf ar gyfer trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol drwy asesu a yw’r daith “ar gael” - diffyniad y mae nifer o deuluoedd yn dweud bod rhain yn anwybyddu risgiau gwirioneddol, meddai’r Cynghorydd Bishop.

“Mae taith sydd dan sylw, a ddefnyddir gan ddisgyblion yn teithio drwy Gwm yr Aber, yn cynnwys darn 40 m.y.a. gydag ond hyn a hyn o fynediad i balmentydd a’r dewis wedyn yw y llwybr beicio sydd ar wahân a chyda goleuadau gwael.”

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, mae galw am asesu llwybrau nid yn unig ar sail pellter ond a ydyn nhw’n “rhesymol ddiogel” er mwyn i blant gerdded arnynt. Dylid hefyd cymryd i ystyriaeth ffactorau megis, cyflymdra traffig, goleuadau, lled y palmentydd a ydyn nhw’n ynysig.

Cefnogodd y cynghorwyr lid y trigolion, gan rybuddio bod y polisi risg yn gosod plant mewn perygl.

Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop: “Mae trigolion yn grac iawn am hyn, ac yn gyfiawn felly. Mae llwybr wedi’i farcio ei fod ‘ar gael’ ar bapur ond dyw hyn ddim yn golygu ei fod yn ddiogel mewn realiti.

“Mae rhieni yn cael eu gorfodi i gymryd dewisiadau amhosib - gyrru eu plant ar hyd llwybr maen nhw’n teimlo sy’n anniogel neu redeg y risg eu bod yn tarfu ar eu haddysg. 

“Codwyd consyrn hefyd ynglŷn â’r disgwyl bod disgyblion yn gallu dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus fel dull amgen.

“Ydy, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn bodoli ar bapur, ond does dim modd dibynnu arno a dyw e ddim yn effeithiol o ran cost. Dyw e ddim yn opsiwn effeithlon nag yn ddibynadwy ar gyfer sicrhau bod y plant yn cyrraedd y r ysgol  yn ddiogel pob dydd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Charlotte Bishop: “Dywed y cyngor bod ymgynghorwyr annibynnol wedi adolygu llwybrau diogel er mwyn sicrhau cysondeb ar draws y fwrdeistref.

“Fodd bynnag, mae’r sawl sy’n  feirniadol yn dadlau bod yr asesiadau yn methu cymryd i mewn i ystyriaeth amodau tymhorol, yn enwedig yn ystod y gaeaf, pan allai plant fod yn cerdded adref yn y tywyllwch.

Mae ymgyrchwyr nawr yn galw am fwy o dryloywder o gwmpas sut y gwneir y penderfyniadau hyn gan gynnwys mynediad i’r asesiad o risg a ddefnyddir.

"Mae un neges i’r cyngor oddi wrth rieni a chynghorwyr  yn glir: mae’n rhaid i ddiogelwch ddod o flaen polisi.”

Mae Lindsay Whittle, Aelod Senedd Caerffili, wedi galw am i arweinydd Llafur cyngor Caerffili Jamie Pritchard i fynnu bod y cyngor yn ail feddwl y cynigion.

“Mae rhieni yn flin iawn ac rydw i’n rhannu eu llid ynglŷn â’r llwybr a gyhoeddwyr gan y cyngor.    Os nad yw rhieni yn gallu fforddio talu bydd eu plant yn gorfod cerdded ar lwybrau peryglus iawn. Mae’n bosib eto y bydd mwy o draffig ar lwybrau’r ysgol nag sydd yno nawr.

“Mae llawer o’r llwybrau hyn ar heolydd cyflym iawn - llwybrau ar heolydd cyflym dros ben - ffyrdd pwysig ar gyfer pobol yn mynd i’w gwaith. Byddai’r cynigion yn golygu plant yn croesi’r Ffordd Osgoi Ogleddol mewn nifer o fannau.

 “Galwaf ar arweinydd y cyngor i gamu ymlaen ac atal hyn cyn i blentyn golli’i fywyd.”

Llwybrau’r Cartref i’r Ysgol a Effeithir:

Caerffili Ysgol Gyfun Bedwas

Bedwas/Tretomas i Ysgol y Gwyndy

Llanbradach i Ysgol Y Gwyndy

 

Abertridwr i Ysgol Gyfun  Sant Cenydd

Maesycwmmer i Ysgol  Lewis i Ferched

Gelligaer/Penybryn/ Tiryberth i Ysgol  Lewis i Ferched 

Maesycwmmer i Goleg Ystrad Mynach

Aberbargoed to Ysgol Gyfun Heolddu

Trinant i Ysgol Gyfun Islwyn