Mae Aelod Seneddol Caerffili Lindsay Whittle wedi mynegi consyrn am hyd ac adeg a’r nifer o gleifion sy’n disgwyl eugollwng o’r ysbyty - yr hyn a elwir yn blocio gwelyau - tra paratoir pecynnau gofal.
Datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan mai 69 diwrnod oedd y disgwyl hiraf ar gyfer gollwng o’r ysbyty - dros ddau fis.
Dywedodd Lindsay Whittle, AS Plaid Cymru: “Felly, roeddwn am weld beth oedd y sefyllfa bresennol ar flocio gwelyau o fewn y bwrdd iechyd sydd dros Gaerffili a sut oedd argaeledd pecynnau yn effeithio’r mater o ollwng cleifion.
“Tra ei bod yn bosib bod amgylchiadau neilltuol, rydw i’n ei chael hi’n ysgytiol bod un claf wedi disgwyl am 69 diwrnod cyn ei ollwng a bod eraill yn disgwyl yn yr ysbyty am ddyddiau neu wythnosau.
“Pan wnaeth fy swyddfa wneud cais i’r bwrdd iechyd, roedd yna 26 o gleifion yn disgwyl cael eu gollwng. Mae hyn yn oedi rhyddhau cleifion sydd wedyn yn golygu bod gwelyau ddim ar gael ar gyfer y sawl sydd eu hangen.
“Yn anffodus, cafodd fy chwaer ei gollwng o’r ysbyty yn gynharach eleni heb becyn gofal. Roedd hyn i mi yn annerbyniol a ddylai byth fod wedi digwydd.”
“Dangosodd yr ymateb bod ar Hydref 4ydd, 2025, cleifion canlynol y Bwrdd Iechyd yn methu cael eu rhyddhau oherwydd diffyg pecyn gofal.
Ysbyty Gymunedol Cas-gwent 4, Ysbyty’r Sir 3, Bwrdd Iechyd Bro Monnow a’r Cyfleustra Gofal Arbennig 1, Ysbyty Nevill Hall 3, Canolfan Iechyd Integredig & Gofal Cymdeithasol Rhymni 1, Ysbyty’r Gwent Brenhinol 3, Ysbyty Aneurin Bevan 9, Ysbyty Ystrad Fawr 2.
Yn ôl y bwrdd iechyd, ar ddiwedd mis Hydref roedd 1,128 o welyau wedi’u staffio hyd a lled ei ardal.
Os bydd Plaid Cymru yn ffurfio Senedd Cymru nesaf mae wedi addo cyflymu’r rhaglen i sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol ar gyfer Cymru, wedi’i integreiddio’n llawn gyda GIG ac yn rhad ac am ddim yn y man mae galw amdano. . Cychwynnwyd hyn gan Blaid dan yn Gytundeb Cydweithiol blaenorol and ers hynny mae wedi mynd yn angof dan Lafur.
Gyda blocio gwelyau, fel rhan o welliannau ehangach i lywodraethiant y GIG, byddai’r Blaid hefyd yn apwyntio Cyfarwyddwr dros Gymru gyda chyfrifoldeb dros drefniadau gofal y tu allan i ysbytai, tra’n gosod Byrddau Partneriaeth Ranbarthol ar sail gyfreithiol hefyd i hyrwyddo cydweithredu systematig rhwng y byrddau iechyd ac awdurdodau lleol ar drefniadau gofal cymdeithasol.