Mae cynlluniau gwerth £33miliwn ar gyfer cyfnewidfa drafnidiaeth, rheilffyrdd newydd i Gaerffili, wedi’i alw’n “wastraff arian trethdalwyr” gan Aelod y Senedd Lindsay Whittle
Mae Lindsay Whittle sy’n cynrychioli Blaenau Gwent, Caerffili a Rhymni, wedi gwrthwynebu ers tro'r datblygiad mae e’n dweud, nad oes ei angen.
ae’r Aelod o’r Senedd hefyd yn gryf yn erbyn chwalu’r hen swyddfa docynnau fel rhan o’r cynllun £33miliwn.
Dywedodd Lindsay Whittle, sydd wedi annog pobol i wrthwynebu'r cynlluniau gan Drafnidiaeth Cymru, “Rydw i wedi gwrthwynebu ers tro dymchwel y swyddfa docynnau ac ar gyfer adeiladau gorsaf drenau newydd, a dweud y gwir, dyw’r dref ddim ei angen.
"Mae’r orsaf drenau wedi gwella’n sylweddol ac mae’r orsaf newydd â blaenoriaeth isel iawn yn fy marn i.
Ar adeg pan welir torri gwasanaethau cyhoeddus i’r byw, hwn yw’r peth olaf sydd ar Gaerffili ei angen. Byd hwn ddim yn denu twristiaid yma.
“Mae’r pwerau sydd yn bod wedi ceisio ein hargymell y bydd twristiaid yn cael eu denu i Gaerffili gan yr orsaf hon. Byddan nhw ddim yn dod i weld gorsaf drenau wydr. Dydy hyn ddim fel petai bobol yn mynd i weld Gorsaf Ganolog Grand Efrog Newydd neu St Pancras yn Llundain sydd yn denu twristiaid.
“Mae pobol yn dod i gastell Caerffili beth bynnag. Ond mae hwn yn rhywbeth nad yw pobol Caerffili ei angen. Byddai gorsaf drenau newydd yn wastraff o £33miliwn o arian trethdalwyr. Arian pobol yw hwn, wedi’r cyfan.”
Dywedodd Linsday Whittle ei fod yn gofidio am effaith diogelwch wrth ddymchwel yr hen swyddfa docynnau oherwydd ei fod yn sefyll ar bont sydd dros brif lein Cwm Rhymni.
Roedd e’n dadlau ei bod yn hanfodol ein bod yn gwarchod hen adeiladau hanesyddol dref drwy wella’r hyn sydd ar ôl.
“Mae pobol Caerffili wedi’i gwneud hi’n glir yn y gorffennol eu bod am warchod ein hen adeiladau hanesyddol amlwg er mwyn diogelu ein treftadaeth.
“Dyw adeilad newydd ddim yn gyson â chastell saith cant a hanner o flynyddoedd. Bydd hefyd yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd. Mae, wrth gwrs, hefyd le i adeiladau newydd a chyffrous ond ddim ar draul adeilad sydd dros gan mlwydd oed.”