Cafodd y dirgelwch a gododd pan ddatgelwyd ai hen gapel neu eglwys oedd yno pan ddymchwelwyd hen Farchnad a safle Woolworth Caerffili.
Yn ôl yr arbenigwyr doedd e’r naill na’r llall, dywedodd Gweinidog yn Senedd Cymru wrth Lindsay Whittle, AS Caerffili.
Gofynnodd i Cadw, y corff sy’n gyfrifol am hen gofebion, i edrych a y safle yn Stryd Pentrebane wedi nifer i sbeciant ar-lein yn amau a allai fod wedi bod yn safle capel neu eglwys.
Dywedodd Lindsay Whittle;”Er nad oedd yn eglwys na chapel, gallaf gadarnhau i’r safle ar un adeg gynnwys neuadd ddawns.
“Rydw i wedi ‘mhlesio i’r ymchwil a wnaed rhoi diwedd ar yr holl sbeciant. Roeddwn yn eithaf cyffrous o feddwl bod yna ddarganfyddiad pwysig, ond, er tristwch, doedd hyn ddim i fod.
“Rydw i’n pledio eto ar i arluniwyr adeiladu rhywbeth cyffrous ar y safle, nid dim byd ond bloc o fflatiau. Bydd hwn yn safle bwysig yn y dref am y 100 mlynedd nesaf.”
Dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Jack Sargeant, wrth Lindsay Whittle: “Datgelodd y dymchweliad yn Stryd Pentrebane, cyn ei ail ddatblygiad, wal adeilad cadarn gyda ffenestri pigfain y mae rhai wedi amau y gallai fod wedi bod yn gapel.
“Heneb yr Ymddiriedolaeth ar gyfer Archeoleg Gymreig yw’r ymgynghorwyr archaeolegol ar gyfer y cynllun hwn ac wedi bod yn rhan o’r prosiect. Maent wedi cadarnhau wrth Cadw eu bod yn ymwybodol o’r adeilad, wedi ei archwilio ac wedi’u bodloni nad oes, ar hyn o bryd, unrhyw dystiolaeth sy’n awgrymu i’r adeilad fod yno ar gyfer y pwrpas hwn.
“Mae fy swyddogion yn Cadw wedi cadarnhau y bydd Heneb yn parhau i fonitro’r gweithgareddau ar y safle gan roi gwybod i Cadw os bydd unrhyw olion a allai fod o ddiddordeb archolegol neu hanesyddol o bwys wrth i’r gwaith o ddymchwel fynd yn ei flaen.”