Mae Swyddfa’r Post yn anfodlon dod â chyfleusterau symudol ar gyfer cwsmeriaid tan y daw swyddfa barhaol i ganol tref Caerffili, dywedwyd wrth Aelod y Senedd, Lindsay Whittle.
Ysgrifennodd Aelod Blaenau Gwent, Caerffili, Rhymni, at uwch swyddogion y Swyddfa Bost wedi i gynlluniau am swyddfa bost amgen ddod i ben.
Mae Lindsay Whittle, sydd yn pryderu ein bod yn bosib y bydd misoedd cyn i swyddfa barhaol agor eto yn y dref, yn dweud: “Mae Swyddfa’r Post eisoes yn defnyddio swyddfeydd post symudol, mae un yn fy etholaeth yn Cwm, a dwy ddim yn credu fy mod i’n gofyn gormod iddyn nhw osod un yng nghanol tref Caerffili am ychydig wythnosau neu fisoedd.
“Mae’r swyddfeydd post yn Castle View a Phenyrheol, yn ogystal â Bedwas a Thretomas, ddim mor gyfleus ar gyfer miloedd o bobol sy’n byw yn ac o gwmpas canol tref Caerffili.
“Yng ngeiriau William Shakespeare os bosib nad yw hi du hwnt i allu dyn i osod swyddfa symudol ar dir ganol y dref.”
Ond mewn e-bost i Lindsay Whittle, dywedodd Swyddfa’r Post: “Rydym yn cydnabod bod colli Swyddfa Bost Caerffili yn anghyfleus i’n cwsmeriaid sy’n dibynnu ar wasanaethau yn y stryd fawr, ac eto’n ymddiheuro i’r sawl sy’n gorfod teithio ymhellach i gael mynediad i’n gwasanaethau.
“Mae nifer o ganghennau amgen yn yr ardal. Mae dwy brif swyddfa bost yng Nghaerffili yn Castle View a Phenyrheol, yn ogystal â dwy gangen sy’n darparu gwasanaeth llawn ym Medwas a Thretomas. Rydym, felly ddim yn ystyried unrhyw wasanaeth dros dro neu symudol ar hyn o bryd.”
Caeodd y cyn Swyddfa Bost yng nghanol Caerffili yn gynharach y mis yma.