Mae Cynghorwyr Plaid Cymru yn annog cyngor Caerffili ac awdurdodau lleol eraill i fod yn fwy tryloyw gyda’r cyhoedd ynglŷn â thir llygredig yn eu hardaloedd.
Dywedodd Cynghorwyr Caerffili Steve Skivens a Charlotte Bishop bod y ddogfen BBC ddiweddar ‘Buried’ gydag actor Hollywood Michael Sheen, wedi amlygu'r angen am gofrestrau tir llygredig i fod yn hylaw ar gyfer y cyhoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Steve Skivens, sy’n rhan o Ymgyrch Genedlaethol Tirlenwi, “Mae gan bobol yr hawl i wybod am yr hyn sy’n gorwedd dan eu traed.
“Am flynyddoedd lawer mae ymgyrchwyr a phobol wedi ceisio’r wybodaeth a chodi amheuon ynglŷn â gwastraff llygredig o fewn safleoedd tirlenwi yng Nghymru. Yn anffodus, oherwydd gorffennol diwydiannol Caerffili, mae nifer o safleoedd tebyg yn bresennol o fewn ein cymunedau. Dyw llygredd o’r fath ddim yn aros o fewn un lleoliad, gan fynd i mewn i ffrydiau dŵr a thrwy dywydd trwm yn rhedeg i mewn i ardaloedd cyfagos.
“Mae cynghorau lleol wedi ceisio datrys cymhlethdod ynglŷn â phwy yw perchnogion y safleoedd hyn, pwy sydd yn eu monitro, beth aeth i mewn iddynt, phwy a’u gadawodd yno a beth yw’r lefelau o risg. Beth bynnag, yn aml does ond ychydig neu ddim cofnodion acmae diffyg tryloywder ynglŷn â monitro a phrofi.”
Mae’r cynghorydd Steve Skivens sydd wedi codi’r mater o dir llygredig am flynyddoedd lawer, wedi dweud: “Mae’n achos pryder bod pobol wedi codi’r materion hyn ers degawdau a gweithredu’n brin ar ran yr awdurdodau. Hefyd, ble mae’r erlyniadau am waredu materion anghyfreithlon o fewn cyfreithiau gwarchod amgylcheddol?”

Dywed y Cynghorydd Charlotte Bishop, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar gyngor Caerffili: “Rydw wedi’n nadrithio gan y diffyg gwybodaeth ac arweiniad ar gyfer trigolion. Ond rydym yn benderfynol o gadw mater tir llygredig yn gadarn ar yr agenda, gyda chyfarfodydd safleoedd gyda chyngor bwrdeistref Caerffili gan adolygu adroddiadau perthnasol.
“Rydym cyn hyn wedi gweithio’n agos gyda chynghorwyr Annibynnol ac Aelodau’r Senedd ar y materion hyn, ac rydym yn benderfynol na chânt eu hanghofio. Byddwn yn parhau i wasgu am arolygu cyson, tryloywder a gweithredu lle mae galw am hynny, yn gweithio gyda’r cyngor ac asiantaethau perthnasol i sicrhau bod consyrn trigolion yn cael y sylw priodol.”