Plaid Cymru yn Anrhydeddu Cynghorydd am Wasanaeth Hir

Plaid Cymru yn Anrhydeddu Cynghorydd am Wasanaeth Hir

Anrhydeddwyd un o Gynghorydd Plaid Cymru Caerffili am ei wasanaeth hir yng nghynhadledd ei blaid yn Abertawe.

Cyflwynwyd  Colin Mann, sy’n cynrychioli ward Llanbradach â dyfarniad cyfraniad arbennig gan Delyth Jewell AS, Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru.

Yn gyn is arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ymunodd y Cynghorydd Colin Mann â’r Blaid n adeg Is-etholiad Seneddol San Steffan yn 1968.

Dywedodd. “Fe’m hetholwyd yn gyntaf i gyn Cyngor Sirol Morgannwg Ganol yn 1977 ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 1994 pan gafodd ei sefydlu. Rydw i hefyd wedi bod yn aelod o Gyngor Cymunedol Llanbradach a Phwllypant er ei sefydlu tua 1985.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Colin Mann: “Rydw i wedi bod yn etholedig yn ddi-dor a’n ail ethol i’r cynghorau uchod ers fy ethol am y tro cyntaf, diolch i’r gefnogaeth hyfryd gan holl bobol Llanbradach. Cyfanswm o 13 gwaith rwy’n credu.

Mewn ymateb yn ystod y gynhadledd dywedodd: “Doeddwn i ddim yn edrych am ddyfarniad ac yn sicr ddim yn disgwyl un.”

Aeth yn ei flaen: “Soniais i fi gael fy ethol yr un pryd a rhyw Lindsay Whittle (cyd gynghorydd Plaid).

Bu nifer of gyflawniadau gan y Blaid ar hyd y blynyddoedd. Cawsom ymgyrch i gael ffordd osgoi i Lanbradach fel canlyniad i nifer o gyfarfodydd, deisebau i’r Swyddfa Gymreig a phob math o lobïo. Mewn gwirionedd cawsom gyfarfod lle daeth 600 o bobol i’r eglwys, a oedd yno ar y pryd, pan oedd bygythiad i ohirio cynlluniau ar gyfer yr heol.

Hefyd, cawsom ymgyrch 22 mlynedd ar gyfer meddygfa feddygol cyn iddo agor yn ystod Covid yn 2021.

“Un o’r achosion proffil uchel yr ydw i’n rhan ohono yw’r ymgyrch i adfer ardal Coed y Bwtsiasen Las (Bluebell Wood) lle bu gwaith cloddio. Rydym bellach yn y broses o ddychwelyd y tir i’r gymuned.

“Mae cefnogaeth yn holl bwysig i unrhyw un sy’n gwneud y math  hwn o waith ac rydw i am dalu teyrnged i’m gwraig Diane am y gefnogaeth aruthrol y mae wedi’i rhoi i fi ar hyd y blynyddoedd,” ychwanegodd y Cynghorydd Colin Mann.