Mae Aelod y Senedd Plaid Cymru Lindsay Whittle wedi cyflwyno’r achos dros gadw’r swyddfa docynnau rheilffordd Fictorianaidd yn rhan o gynllun £33m cyfnewidfa drafnidiaeth yng Nghaerffili.
Cyfarfu Aelodau’r Senedd Blaenau Gwent, Caerffili, Rhymni y dirprwy weinidog trafnidiaeth, Mark Hooper, gan gyflwyno delweddau a grëwyd gan un o drigolion Caerffili o sut y gallai’r swyddfa docynnau ffurfio rhan o’r datblygiad.
Dywedodd Lindsay Whittle, sy’n gwrthwynebu dymchweliad y swyddfa docynnau Fictorianaidd fel rhan o’r datblygiad: “Roeddwn yn ystyried y cyfarfod gyda Mark Hooper yn ddefnyddiol a gwrandawodd yn astud i’r achos dros achub yr hen swyddfa docynnau.
“Ond rydw i’n deall nad ond un mater yw’r achos hwn i Lywodraeth Cymru ond hefyd i Drafnidiaeth Cymru a’r awdurdod lleol sydd wedi cyflwyno cais cynllunio. Gobeithiaf, hyd yn oed ar gyfnod mor hwyr â hyn y gellir addasu’r cynlluniau am eu bod yn bosibl cael y ddau, yr hen swyddfa docynnau a’r gyfnewidfa newydd.”
Tynnodd Lindsay Whittle sylw at y mater bod y swyddfa docynnau yn unigryw yng Nghaerffili am fod llawer o adeiladau arwyddocaol eraill wedi eu dymchwel.
Hefyd, tynnodd e sylw i’r ffaith bod yr ardal wedi colli ysgol a adeiladwyd ddiwedd y ddeunawfed ganrif, hen orsaf heddlu’r dref, nifer o hen fanciau, siop crydd o’r 1700au a hen Westy’r Clive, adeilad gwych.
“Hwn i’r olaf o’r adeiladau can mlwydd oed a chastell Caerffili yr unig eithriad, capel a’r hen Ddadleudy,” ychwanegodd Lindsay Whittle.